Nasir Adam
Ymgeisydd De Caerdydd a Phenarth
Soniwch amdanoch eich hun
Nasir yw fy enw; rwy’n briod gyda phedwar o blant, ac yr wyf yn frwd iawn dros gyfiawnder cymdeithasol, addysg i’n plant, a mynd i’r afael â’r argyfwng tai.
Bûm yn was sifil am dros un mlynedd ar bymtheg, gan weithio ar draws gwahanol sectorau, yn ymdrin â thai a digartrefedd, adfywio cymunedol, gwaith ieuenctid, a churadu Hanes Pobl Ddu - gan sicrhau bod lleisiau pawb yn cael eu clywed.
Rwyf hefyd wedi bod yn ymgyrchydd cymunedol am dros 20 mlynedd - gan frwydro dros gyfiawnder yn y sector tai ac addysg, a sicrhau cyfleoedd i’n hieuenctid.
Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?
Cynyddu ynni gwyrdd a theithio llesol, codi tai gwirioneddol fforddiadwy, hyrwyddo cydraddoldeb cymdeithasol a chreu swyddi cynaliadwy
Beth wnewch chi dros Dde Caerdydd a Phenarth petaech yn cael eich ethol?
Byddaf yn parhau i wneud yr hyn a wnes erioed, sef sefyll a brwydro dros ein cymuned, a sicrhau bod materion llawr gwlad yn cael eu trin yn y Senedd.
Rwy’n addo y gwnawn y canlynol:
- Datblygu tai fforddiadwy
- Sicrhau cyfiawnder cymdeithasol go-iawn i’n cymunedau
- Buddsoddi a chreu mwy o ddarpariaeth i ieuenctid
- Buddsoddi mewn ynni gwyrdd a thrafnidiaeth
- Creu swyddi gwyrdd a chynaliadwy