Cliciwch yma i ddarllen neu lawrlwytho y pamffled fel PDF.

Dyma agenda radical Leanne Wood er mwyn sicrhau y bydd ‘penderfyniadau sy’n effeithio ar Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru’ trwy raglen o ddemocrateiddio a grymuso.

Mae'r pamffled eang hwn gyda syniadau yn amrywio o addysg i fenter i ddiwygio democrataidd fydd yn rhoi mwy o lais i bobl dros y materion sy’n effeithio arnynt hwy a’u cymunedau ail-gysylltu unigolion â gwleidyddiaeth a herio’r anobaith sydd wedi bod fwyaf amlwg yng ngoleuni degawd o doriadau a’r bleidlais i adael yr UE.

Mae'r Torïaid a Llafur yn rhoi dewis ffug rhwng gwleidyddiaeth o’r brig-i’r-bôn, cynyddol adweithiol aden-dde, ac agenda Llundain-ganolog Llafur gyda’u gwrthodiad styfnig i ildio pŵer o San Steffan neu Gaerdydd.

Bydd Leanne Wood yn cychwyn ar daith o gwmpas Cymru gan gynnal cyfarfodydd cyhoeddus i drafod y syniadau sydd yn y pamffled ac ymwneud â phobl ar lawr gwlad. Cliciwch yma am y manylion diweddaraf.

Os ydych yn cytuno y dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru, cliciwch yma i arwyddo'r ddeiseb.

Ydych chi'n hoffi'r dudalen hon?