Mae sefyll etholiad fel ymgeisydd Plaid Cymru yn gyfle i chi arwain newid a hyrwyddo’r gwerthoedd hynny sy’n bwysig i chi.

Clywch gan gyn-ymgeiswyr y Blaid sydd wedi troi eu hangerdd yn weithred, a darganfyddwch sut gallwch chi fod yn rhan o’r daith drawsnewidiol hon.

Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu Cymru decach a mwy uchelgeisiol.

Cynnwys


Heledd Fychan AS

Heledd Fychan

"Mae gwybod fy mod i wedi gallu gwneud gwahaniaeth yn gwneud y cyfan yn werth chweil"

Yr hyn a'm hysgogodd i sefyll etholiad oedd gweld problemau yn fy nghymuned yn cael eu hanwybyddu gan wleidyddion a oedd i fod i’n cynrychioli, ond oedd yn gwrthod gwneud hynny. Roeddwn wedi cael llond bol o’u clywed yn amddiffyn methiannau’r llywodraeth, yn hytrach na brwydro dros newid ac am fuddsoddi yn ein gwasanaethau lleol.

Fel Cynghorydd a bellach fel Aelod o’r Senedd, rwy’n ei hystyried yn anrhydedd cael gweithio gydag unigolion a sefydliadau, a’u cefnogi i gael eu clywed gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, ac ymgyrchu dros newid. Mae gwybod fy mod i wedi gallu gwneud gwahaniaeth, ynghyd â fy nhîm, a darparu cymorth, cysur a chefnogaeth yn gwneud y cyfan yn werth chweil.

[brig]


Cynghorydd Carrie Harper

Carrie Harper

"Mae Cymru ar drothwy newid hanesyddol, byddwch yn rhan ohono"

Penderfynais sefyll dros Blaid Cymru yn gyntaf 16 mlynedd yn ôl ac nid wyf wedi edrych yn ôl ers hynny. Roedd yn amlwg i mi bryd hynny mai Plaid yw'r cyfrwng ar gyfer y newid yr wyf am ei weld ar lefel leol a chenedlaethol ac mae'n gliriach fyth i mi mai dyna'r sefyllfa heddiw.

Rwyf wedi gwneud ffrindiau oes, wedi cael cymorth i ddatblygu achosion sy'n agos at fy nghalon ac yn rhan o dîm aruthrol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae bod yn rhan o Blaid Cymru yn parhau i fod yn brofiad grymusol iawn i mi.

Os ydych chi'n meddwl am sefyll dros Blaid Cymru fy nghyngor i fyddai mynd amdani, yn enwedig nawr! Mae Cymru ar drothwy newid hanesyddol, byddwch yn rhan ohono.

[brig]


Kiera Marshall

Kiera Marshall

"Roeddwn i eisiau rhoi llais go iawn i bobl yn fy nghymuned ac ymladd am ddyfodol gwell i Gymru."

Mi wnes i'r penderfyniad i sefyll dros Blaid Cymru am yn 2024, ar ôl bod yn aelod ac ymgyrchydd am gyfnod, gan na allwn dderbyn sut yr oedd pethau mwyach. Ni fedrwn wylio ein cymunedau yng Nghymru yn dioddef tra bod gwleidyddion yn methu â gweithredu.

Mae gormod o wleidyddion i'w gweld yn fodlon ailgylchu'r un syniadau blinedig, tra bod pobl ledled Cymru yn wynebu heriau cynyddol - yn brwydro gyda chostau cynyddol, diffyg cyfle, a phrinder swyddi deche. Roeddwn i’n teimlo bod Cymru’n haeddu gwell na’r diffyg gweledigaeth ac arweinyddiaeth rydyn ni wedi’i chael.

Rydw i wedi bod yn dyst i’r effaith mae’r esgeulustod hwn yn ei gael ar bobl sy’n bwysig i mi – teuluoedd sy’n brwydro i gael dau ben llinyn ynghyd, pobl ifanc yn methu â dod o hyd i gyfleoedd teilwng, a chymunedau’n colli gobaith wrth iddynt wynebu mwy a mwy o anghydraddoldeb economaidd a chymdeithasol. Dyma’r realiti mewn cymaint o rannau o Gymru, ac allwn i ddim eistedd yn ôl a’i dderbyn mwyach.

Roedd hi hefyd yn amlwg i mi fod y penderfyniadau oedd yn cael eu gwneud yn San Steffan yn gwneud cam â Chymru, ac yn parhau i wneud cam â Chymru. Dyw pleidiau eraill na’u gwleidyddion ddim yn fodlon gwneud dim am hyn, ac maent yn rhy barod i esgus nad yw’n digwydd.

Dyna pam y penderfynais sefyll. Roeddwn i eisiau rhoi llais go iawn i bobl yn fy nghymuned ac ymladd am ddyfodol gwell i Gymru.

[brig]


Mwy o wybodaeth am Sefyll dros Blaid Cymru: