Pwyllgorau
Mae Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol Plaid Cymru yn goruchwylio nifer o is-bwyllgorau sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau gweithredol allweddol dros y Blaid.
Rydym yn recriwtio aelodau newydd i ymuno â’r is-bwyllgorau canlynol. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, gan y bydd hyfforddiant ar gael i’ch cefnogi yn y rôl hon:
- Pwyllgor Aelodaeth, Disgyblaeth a Safonau
- Pwyllgor Archwilio, Risg a Chydymffurfio
- Pwyllgor Cyllid
- Pwyllgor Personél
Dyma eich cyfle i chwarae rhan allweddol wrth lunio dyfodol ein Plaid. Os ydych chi’n frwd dros wneud gwahaniaeth ac eisiau cyfrannu eich sgiliau a’ch syniadau, rydym yn eich annog i wneud cais. Ymunwch â ni i adeiladu Plaid Cymru gryfach ac effeithiol. Cymrwch ran heddiw!
I wneud cais, dychwelwch y ffurflenni isod wedi eu llenwi i [email protected] erbyn 21 Mawrth 2025.
Ffurflenni
Ffurflen gais
.docx
Ffurflen fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth
.docx