Rhys ab Owen
Ymgeisydd etholaeth Gorllewin Caerdydd a rhanbarth Canol De Cymru (rhif 1)
Soniwch amdanoch eich hun
Cefais fy ngeni a’m magu yng Nghaerdydd, a derbyn fy addysg yn Ysgol Glantaf cyn astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Rhydychen, ac yna dilyn y Cwrs Hyfforddi Bargyfreithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwyf wedi gweithio fel Bargyfreithiwr ers 2010. Sefais dros y Blaid yn etholiadau lleol Caerdydd yn 2017 lle codais bleidlais y Blaid yn Canton yn sylweddol o 910 i 2,105. Rwy’n byw yn Canton gyda ‘ngwraig Manon a’n merch fach Esther Siân.
Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?
Pwyso am ddatganoli cyfiawnder a phlismona i gryfhau democratiaeth Gymreig a sicrhau bod ein Senedd yn gweithio i bobl Cymru.
Beth wnewch chi dros Orllewin Caerdydd / Canol De Cymru petaech yn cael eich ethol?
Byddaf yn brwydro dros Gymru fwy gwyrdd sydd yn manteisio ar ei hadnoddau naturiol ac yn buddsoddi mewn ynni gwyrdd; Cymru decach sy’n taclo tlodi plant a digartrefedd ac yn rhoi gwerth ar ofalwyr ac yn eu talu’n iawn; Cymru iachach gyda chydraddoldeb rhwng iechyd a gofal cymdeithasol.