Rhys Mills

Ymgeisydd etholaeth Islwyn a rhanbarth Dwyrain De Cymru (rhif 4)

Rhys Mills - IslwynRhys Mills - Dwyrain De Cymru (4)

Gwefan Twitter Instagram

Soniwch amdanoch eich hun

Mae Islwyn yn fwy nag etholaeth i mi: dyma fy nghartref. Rwy’n gynghorydd trefn yn y Coed Duon ac ar hyn o bryd yn ddirprwy faer. Rwyf wedi ymrwymo f’amser yn fy swydd i roi llais i bobl sy’n teimlo nad oes ganddynt lais. Rwy’n credu y dylai pawb allu llunio’r penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau, ac y dylai ein sefydliadau adlewyrchu’r bobl maent yn eu gwasanaethu.

Rwy’n Rheolwr Cynllunio a Deunyddiau Crai yn y diwydiant cynhyrchu bwyd. Rwy’n credu bod fy mhrofiad y tu allan i’r llwybr arferol i wleidyddiaeth yn llesol i mi o ran cael gwell canlyniadau i’r bobl yr wyf yn gobeithio eu cynrychioli.

Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?

Dylai pawb allu llunio’r penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau ac y dylai pobl allu dal y sawl sydd mewn grym i gyfrif. Mae’r pum mlynedd nesaf yn hanfodol ar gyfer y setliad datganoli; mae angen i bobl deimlo bod ganddynt ran wirioneddol yn y wladwriaeth Gymreig. Ni ddylai datganoli aros yng Nghaerdydd. Rhaid iddo wneud gwahaniaeth ym mywydau beunyddiol yr etholwyr. Mae llawer o waith i’w wneud.

Beth wnewch chi dros Islwyn / Dwyrain De Cymru petaech yn cael eich ethol?

Mae’r pandemig Coronafeirws yn fwy na dim ond argyfwng iechyd cyhoeddus: mae’n argyfwng economaidd hefyd. Mae economi Cymru yn wynebu ei her fwyaf ers cenhedlaeth, gyda disgwyliadau y bydd diweithdra yn cyrraedd 120,000 erbyn yr haf.

Mae’n rhaid i ni ddechrau cynllunio yn awr ar gyfer adferiad. Gweithio allan sut y byddwn yn adeiladu’n ôl, nid yn unig yn well, ond yn dda. Mae hynny’n golygu creu swyddi, cefnogi busnesau i adfer, a sicrhau dyfodol disglair i’n plant. Mae tua 600,000 o blant yn byw yng Nghymru: o’r rheiny, mae un o bob tri, neu 200,000, mewn tlodi. Nid yw hyn yn dderbyniol. Mae arnom angen uchelgais ac arloesedd i ail-lunio ein heconomi fel ei fod yn gweithio i bawb.