Richard Grigg

Ymgeisydd Bro Morgannwg

Richard Grigg - Bro Morgannwg

Facebook Twitter

Soniwch amdanoch eich hun

Wedi fy ngeni a’m magu yng Nghaerdydd; symudiad i a ‘nheulu i Fro Morgannwg 14 mlynedd yn ôl. Cefais fy ethol gyntaf yn Gynghorydd dros ward Murch yn 2008 ac yr wyf ar hyn o bryd yn Gadeirydd Cyngor Cymuned Dinas Powys.

Cyfreithiwr wyf i, sydd wedi gweithio yn y sector preifat a chyhoeddus dros yr 16 mlynedd a aeth heibio. Cyn hynny, roeddwn yn cynhyrchu rhaglenni chwaraeon i’r BBC.

Y tu allan i’r gwaith, bûm yn llywodraethwr ysgol, yn aelod anweithredol o Gymdeithas Dai, ac yr wyf yn gefnogwr brwd i dimau pêl-droed Dinas Caerdydd a Chymru.

Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?

Mae’n bwysig gosod allan y math o Gymru rydym am fyw ynddi wedi Covid-19 a Brexit. Rwy’n credu bod yr amseroedd caled hyn wedi dangos pwysigrwydd gwneud penderfyniadau am Gymru yng Nghymru. Byddaf yn cefnogi refferendwm ar annibyniaeth o fewn y 5 mlynedd nesaf.

Beth wnewch chi dros Bro Morgannwg petaech yn cael eich ethol?

Byddaf yn parhau i ymgyrchu i ddelio a phroblemau traffig ar draws Bro Morgannwg. Rwyf wedi ymrwymo i wella safonau addysgol yn ein hysgolion, a rhoi terfyn ar dlodi plant.