Sahar Al-Faifi
Ymgeisydd Canol De Cymru (rhif 4)
Soniwch amdanoch eich hun
Deuthum i Gymru un mlynedd ar bymtheg yn ôl fel ffoadur gwleidyddol gyda ‘nhad sydd yn undebwr llafur sosialaidd, gan ffoi rhag erledigaeth regime Saudi Arabian. Ymgartrefais yng Nghymru ac ychwanegu Cymreig i’m hunaniaethau lluosog. Dysgais Saesneg a gwneud gradd a gradd meistr mewn Geneteg. Gweithiais yn y GIG fel Genetegydd Moleciwlaidd am rai blynyddoedd. Fodd bynnag, yr oedd y tân dros hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol yn dal ynof. Newidiais fy ngyrfa a dod yn drefnydd cymunedol dros gyfiawnder cymdeithasol ac yr wyf yn awr yn sefyll am y Senedd.
Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?
Dyw menywod o’m cefndir i ddim i fod i redeg am swyddi cyhoeddus, ond mae’n bryd brwydro dros well cynrychiolaeth i bawb. Rhaid i’r Senedd weithio i gymwys argymhellion adroddiad ar ddiwygio etholiadol yn y Senedd dan y teitl: ethol Senedd fwy amrywiol. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr fod gwleidyddiaeth Cymru yn cynrychioli’r holl bobl a’u hanghenion, gan gynnwys menywod DLlE.
Beth wnewch chi dros Ganol De Cymru / Canol De Cymru petaech yn cael eich ethol?
Cynyddu cyllid ar gyfer iechyd meddwl a chyflwyno cynllun achub gofal cymdeithasol fydd yn helpu pobl i fyw yn annibynnol a chynyddu rôl ysbytai cymunedol, creu cynllun cymhelliant i fyfyrwyr i aros neu ddychwelyd i Gymru ar ôl astudio, a pheri bod mwy o addysg cyfrwng-Cymraeg ar gael. Pwyso am ddatganoli’r system cyfiawnder troseddol i Gymru, gan gynnwys mwy o gymorth cyfreithiol i bobl ar incwm isel a theuluoedd mewn tlodi.