Mae Plaid Cymru, ynghyd a phobl ar draws y celfyddydau yng Nghymru wedi ysgrifennu llythyr agored at y Prif Weinidog, yn galw am gefnogaeth frys i amddiffyn diwydiant celfyddydau trysor Cymru.

A wnewch chi ychwanegu eich enw at y llythyr agored?

Trwy lofnodi, yr ydych yn cytuno i Blaid Cymru gofnodi eich barn wleidyddol a’i ddefnyddio at ddibenion ymgyrchu. Gallwch weld ein polisi diogelu data yma.

Annwyl Brif Weinidog,

Rydym yn ysgrifennu atoch chi ar y cyd fel aelodau o sector celfyddydol Cymru i ofyn i’r pecyn cymorth o £59 Miliwn y mae Llywodraeth y DU wedi’i gyhoeddi ar gyfer Cymru gael ei ddefnyddio’n llawn i sicrhau dyfodol y sector.

Mae’r diwydiannau celfyddydol a chreadigol yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r economi yng Nghymru. Mae’r ffigyrau diweddaraf sydd ar gael yn awgrymu bod y sector yn cynhyrchu trosiant blynyddol o ryw £2.2 biliwn, gan gyflogi tua 56,000 o bobl.

Fodd bynnag, mae perygl gwirioneddol ein bod ar fin bod yn dystion i gadwyn drychinebus o ddigwyddiadau. 

Gyda thros dri mis o gau ledled y diwydiant oherwydd y cloi, ataliwyd yr holl incwm ar draws y sector a chyda’r Cynllun Cadw Swyddi yn dod i ben ar ei ffurf bresennol, mae pobl ar fin colli eu swyddi.

Mae Canolfan Mileniwm Cymru, er enghraifft, sy’n un o gonglfeini’r sin gelfyddydol a diwylliannol yng Nghymru, yn mynd trwy gyfnod o ymgynghori am ddiswyddiadau, gyda 250 o swyddi mewn perygl. Maent eisoes wedi colli refeniw o £20 miliwn, ac ni fedr agor ei ddrysau tan o leiaf Ebrill 2021.

Gyda throsiant blynyddol cyn Covid o £1.4 miliwn, mae Theatr Mwldan yn Aberteifi hefyd wedi cychwyn ar y cyfnod ymgynghori am ddiswyddo gyda’r 26 aelod o’u staff.

Mae Gŵyl Gomedi Machynlleth yn cynhyrchu dros £1 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn. Gan eu bod wedi wynebu canslo yn gynharach eleni, mae Little Wander, y BBaCh sydd y tu ôl i’r ŵyl, yn wynebu diwedd y cynllun seibiant, heb fedru cynhyrchu incwm a thrwy hynny roi’r mudiad mewn perygl enbyd.

Megis dechrau yw hyn, gan fod theatrau cymunedol a mudiadau celfyddydol ar hyd a lled y wlad yn debyg o ddiflannu’n ddim, gan adael bwlch diwylliannol ac economaidd enfawr.

Hefyd, gweithwyr llawrydd sy’n llunio 70% o’r gweithlu; hwy sy’n creu ac yn dyfeisio, ac sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r gwaith. Mae miloedd o’r gweithwyr hyn - o dechnegwyr i beirianwyr sain i action a chyfarwyddwyr - heb fod yn gymwys am seibiant na chefnogaeth i weithwyr hunangyflogedig, ac nid ydynt wedi cael eu cefnogi ers i’r cloi gychwyn. Mae llawer yn wynebu colli eu bywoliaeth a’u cartrefi ac yn debygol y bydd lluoedd yn gadael y diwydiant. Fydd dim modd mesur yr effaith ar golli swyddi, iaith a diwylliant Cymru, iechyd a lles a’r economi ehangach.

Lawer gwaith, mae’r diwydiant wedi gofyn am wybodaeth am gynlluniau adfer, ond ni welsom y rhain eto.

Gyda’r addewid o £59 miliwn gan San Steffan, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru nawr ddangos arweiniad a gweithio i greu cynllun clir sy’n adlewyrchu ar y pwysigrwydd rydym ni yng Nghymru yn ei roi ar ein diwylliant.

Does dim amser i’w wastraffu. Gyda chymaint o fudiadau’r celfyddydau yn dod i mewn i’r cyfnod ymgynghori am ddiswyddo a chanran y gweithlu heb fod yn derbyn cefnogaeth, oni weithredir rhag blaen, mae’r diwydiant yn debyg o ddisgyn ymhen mis. Fe gollir miloedd o swyddi ac ni fydd modd gwrthdroi hyn.

Rydym yn galw am dri ymyriad pendant ar frys gan Lywodraeth Cymru er mwyn achub y diwydiant ac atal swyddi di-ri rhag cael eu colli.

  1. Tasglu Brys - Gyda chynrychiolwyr o fudiadau’r theatr, mudiadau celfyddydol, gweithwyr llawrydd, artistiaid a gweithwyr cymunedol. Dylai arbenigedd a gwybodaeth y grŵp hwn fod yn sylfaen i weithredoedd Llywodraeth Cymru o ran achub y diwydiant.
  2. Buddsoddi fel rhan o gynllun adfer wedi Covid-19 - Rhaid i’r gweithlu dderbyn cefnogaeth ariannol oherwydd heb hynny, nid oes diwydiant.
  3. Map (gyda chynllun adfer clir) Nid yw’r map cyfredol a gynigir gan Lywodraeth y DG yn rhoi unrhyw amserlenni manwl o ran buddsoddi, nac ail-ddychmygu modelau busnes, o ran sut y gall theatrau a mudiadau celfyddydol weithredu yn y dyfodol agos a pharatoi’r ffordd ar gyfer adfer dros y blynyddoedd nesaf. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda’r sector i greu map penodol i Gymru.

Mae sector y celfyddydau yng Nghymru yn gweld hyn fel ennyd gritigol yn ein hanes; un y gellid ei gweld fel trobwynt yn y ffordd yr ydym yn edrych ar y celfyddydau yng Nghymru. Y tu hwnt i’r argyfwng ei hun, mae cyfle yma i ni wireddu ecoleg integredig amrywiol i’r celfyddydau a fyddai o fudd i’r economi, addysg, iechyd meddwl a lles yn ystod cyfnod Covid-19 ac wrth ddod atom ein hunain ohono, yn ôl y ffordd a ragwelwyd gan Lywodraeth Cymru pan wnaethant roi bod i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn 2015. Rhaid i Lywodraeth Cymru felly ddangos yn glir sut y bydd sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r celfyddydau a diwylliant yn yr ystyr ehangach ar flaen y fframwaith o adfer wedi Covid.

Yn gywir,

Adam Price MS

Arweinydd, Plaid Cymru

Siân Gwenllian MS

Gweinidog Cysgodol Diwylliant


Cefnogir y llythyr hwn gan:

Adele Thomas (Opera Director / Cyfarwyddwr Opera)

Angharad Lee (Freelance director / Cyfarwyddwr Llawrydd)

Bethan Marlow (Writer, Director / Awdur, Cyfarwyddwr)

Carys Eleri (Actor, Performer / Actor a Perfformiwr)

Catrin Finch (Harpist / Telynores)

Charlotte Church (Singer, Educator / Canwr, Addysgwr)

Dafydd James (Writer/Composer, Awdur, Cyfansoddwr)

Daniel Evans (Actor)

Elen Bowman (Producer, Director / Cynhyrchydd, Cyfarwyddwr)

Gary Owen (Playwright, Dramodydd)

Geinor Styles (Artistic Director, Cyfarwyddwr Artistig)

Glesni Price- Jones (Freelance theatre producer / Cynhyrchydd theatr llawrydd)

Huw Davies (Actor)

Jalisa Andrews (Actor)

Lee Lyford (Artistic Director Theatr Iolo / Cyfarwyddwr Artistig Theatr Iolo)

Kiri Pritchard Mclean (Writer, comedian)

Liz Gardiner (Actor)

Manon Eames (Writer / Awdur)

Mared Swayne (Director / Cyfarwyddwr)

Mark Lewis Jones (Actor)

Olwen Medi (Actor)

Rhian Hutchings (Director / Cyfarwyddwr)

Robert Bowman (Actor, Producer / Actor, Cynhyrcydd)

Siân Lloyd (Presenter / Cyflwynydd)

Stifyn Parri (Producer / Cynhyrchydd)

Terry Victor (Actor, Writer a Director / Actor, Awdur a Cyfarwyddwr)

Vivien Care (Course Manager / Rheolwr Cwrs)

Dan Seidler (Tramshed)

Glyn Rhys-James (Musician / Cerddor)

Daniel Jones (Globetrotters music venue)

Adam Roy Whitmore (Promoter, Band & tour manager / Hyrwyddwr a Rheolwr Band a Thaith)

Zac Mather (Musician and creative freelancer / Cerddor a llawrydd)

Joshua Sinclair (Tour Manager and Sound Engineer / Rheolwr Taith a Cynhyrchydd Sain)

Dic Ben (Musician / Cerddor)

Griff Lynch (Musician / Cerddor)

Robyn Gruffydd Hughes (Musician / Cerddor)

Richard Hawkins (Promoter / Hyrwyddwr)

Georgia Ruth Williams (Musician / Cerddor)

Kevin Ford (Musician / Cerddor)

Gwyn Eiddior (Art Director / Cyfarwyddwr Artistig)

Ed Truckell (Sound Engineer / Cyhyrchydd Sain)

Kris Jenkins (Producer / Cynhyrchydd)

Benjamin T Mainwaring (Musician / Cerddor)

John Rea (Composer and musician / Cyfansoddwr a cherddor)

Richard Huw Morgan (Performance artist / Perfformiwr)

Alison Woods (Prif Weithredwr NoFit State Circus / Chief Executive NoFit State Circus)

Dr Firenza Guidi (Auteur a Chyfarwyddwr Lexicon NoFit State Circus / NoFit State Circus Lexicon Auteur & Director)

Steffan Donnelly (Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Invertigo / Invertigo Theatre Artistic Director)

Ifor ap Glyn (Bardd Cenedlaethol Cymru /  National Poet of Wales)

Abdul Shayek (Cyfarwyddwr Artistig Fio  / Fio Artistic Director)

Elen ap Robert (Ymgynghorydd Celfyddydau  / Arts Consultant)

Catherine Young (Cyfarwyddwr Artistig Dawns i Bawb  /  Dawns i Bawb Artistic Director)

Mari Pritchard (Cerddor ac arweinydd / Musician and conductor)

Ian Rowlands (Dramodydd a Chyfarwyddwr / Playwright and Director)

Rhian a Cefin Roberts (Cyd-gyfarwyddwyr Ysgol Glanaethwy /  Ysgol Glanaethwy Co-directors)

Iwan Williams (Cyfarwyddwr  Ffiwsar  / Ffiwsar Director)

Yvette Vaughan-Jones (Ymgynghorydd Celfyddydau, Cadeirydd Bwrdd Opera Cenedlaethol Cymru / Arts Consultant, Chair of Welsh National Opera)

Dr Gwawr Ifan (Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau Prifysgol Bangor /  School of Music and Media  Bangor University)

Nici Beech (Myfyriwr Phd a Chynhyrchydd Gwyl  /   PhD student and Festival Producer)

Daloni Metcalf (Darlledwr  /  Broadcaster)

Geoff Cripps (Cadeirydd Creu Cymru a Theatr nanÓg)

Gwyn Roberts (Prif Weithredwr Galeri Caernarfon / Galeri Caernarfon Chief Executive)

Lisa Jên a Martin Hoyland (9Bach)

Jennifer Lunn (Ysgrifennwr, Cynhyrchydd, Hwylusydd llawrydd /  Freelance Writer, Producer, Facilitator)

Deborah Keyser (Cyfarwyddwr / Director)

Guto Brychan (Prif Weithredwr  Clwb Ifor Bach / Clwb Ifor Bach Chief Executive)

Dafydd Roberts (Prif Weithredwr Sain / Sain Chief Executive)

 

 

280 signatures