Mae rhagrith adain Brydeinig y Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn syfrdanol. Tra’n beirniadu “system raddio fethiedig” Llywodraeth y DU a’u cyhuddo o gipio dyfodol myfyrwyr i ffwrdd, mae eu cymheiriaid yn Llywodraeth Cymru yn cyflawni’r un cam!

Cytuno â ni? Llofnodwch ein llythyr.

Trwy lofnodi, yr ydych yn cytuno i Blaid Cymru gofnodi eich barn wleidyddol a’i ddefnyddio at ddibenion ymgyrchu. Gallwch weld ein polisi diogelu data yma.

Annwyl Mark,

Yng ngeiriau Arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, “across the last twenty-four hours, we have heard heart-breaking stories and the scale of the injustice caused by the fatally flawed results system has become clear. Young people right across the country, in every town and city, feel let down and betrayed.”

Mae’r sylwadau hyn wedi’u hategu gan Ed Davey, Arweinydd dros dro y Democratiaid Rhyddfrydol sydd wedi datgan fod y drefn wedi arwain at “some utterly unfair outcomes.”

Roedd y ddau ohonynt yn cyfeirio at israddio canlyniadau yn Lloegr lle’r oedd 40% o ganlyniadau Lefel A yn îs na’r disgwyl.

Yng Nghymru, cafodd 42% o’r canlyniadau eu hisraddio, gan adael disgyblion yn teimlo yn ddig eu bod wedi dioddef dan law system ffaeledig.

Os yw’ch pleidiau yn Lloegr yn ddiffuant yn y feirniadaeth hon, mae’n rhaid i chi a’r Gweinidog Addysg yn awr ailasesu’r dull a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau nad yw’r un disgybl dan anfantais mewn blwyddyn a oedd eisoes wedi creu gofid mawr.

Dylid codi graddau disgyblion a oedd yn îs nag asesiadau’r athrawon yn yr arholiadau Lefel A ac AS, gan ddefnyddio graddau asesiadau’r athrawon.

Ymhellach, dylid defnyddio’r fecanwaith yma ar gyfer dyfarnu graddau TGAU a dylid cyfathrebu hynny i ddysgwyr heddiw er mwyn tawelu eu meddyliau.

Mewn cyfnod cwbl eithriadol fel hyn, mae’n rhaid i ninnau hefyd fod yn barod i ymateb mewn modd eithriadol yn enw tegwch a lles y disgybl.

Rwy’n anfon copi o’r llythyr hwn at y Gweinidog Addysg ac Arweinwyr eich pleidiau a wnaeth y sylwadau hyn.

Yn gywir,

Adam Price AS/MS,

Mae 632 o bobl wedi llofnodi

Gadewch i ni gyrraedd 1,000