Datganiad ar Hawliau a Chynhwysiant Trawsrhywedd
Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i sicrhau hawliau cyfartal i bawb.
Mewn perthynas â hawliau i bobl trawsrhywedd rydym yn falch o’n record o fod wedi arwain yr ymgyrch i sefydlu gwasanaeth clinig trawsrhywedd yng Nghymru, ac o fod wedi mabwysiadu polisiau cryf mewn perthynas â hawliau pobl traws.
Yn Chwefror 2020 mabwysiadodd Cyngor Cenedlaethol Plaid Cymru polisi ar hawliau pobl traws sydd wedi’i ymgorffori yn y datganiad a lofnodwyd gan pob un Ymgeisydd ar gyfer Etholiadau’r Senedd a Chomisiynwyr Hwddlu 2021.
Yn ogystal â hyn, mae pob ymgeisydd wedi cymryd rhan mewn sesiynnau hyfforddiant dan arweiniad yr elusen arbenigol Gendered Intelligence.
[Arwyddwyd y datganiad hwn gan bob un Ymgeisydd Plaid Cymru yn Etholiad Senedd Cymru 2021 a’r Etholiad ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throseddu 2021]
Fel ymgeiswyr Plaid Cymru yn etholiad Senedd Cymru ac etholiad Comisiynwyr Heddlu sydd ar ddod, rydym yn ailddatgan ein hymrwymiad llwyr i gydraddoldeb i bobl draws yng Nghymru.
Rydym ni’n credu:
- Dylai pobl draws fod â’r hawl diymwad i fyw yn rhydd o ragfarn, camwahaniaethu ac erledigaeth.
- Dylai pawb fod â’r hawl diymwad i bennu eu hunaniaeth rhywedd eu hunain a byw yn unol â hynny. Dylai hyn gynnwys yr hawl i gael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau yn unol â’u hunaniaeth rhywedd.
- Bod rhagfarn a chamwahaniaethu yn erbyn pobl draws yn annerbyniol ac na ddylid ei oddef dan unrhyw amgylchiadau.
- Dylai pawb gael yr un cyfle i lwyddo ac y dylid derbyn a pharchu amrywiaeth.
Rydym yn penderfynu i:
- Gefnogi cydraddoldeb i bobl draws.
- Brwydro dros wlad lle mae gan bawb warchodaeth gyfreithiol i’w hawliau dynol ac yn gwarantu, waeth beth fo’ch hil, rhyw, hunaniaeth rhywedd, anabledd, statws partneriaeth, crefydd neu gred, neu gyfeiriadedd rhywiol, y cewch eich trin yn gyfartal.
- Parhau i graffu ar ddatblygiad y gwasanaethau hunaniaeth rhywedd yng Nghymru ac yn ymgyrchu am well gwasanaethau hunaniaeth rhywedd i roi cefnogaeth hanfodol i bobl draws yng Nghymru.
- Cefnogi diwygio’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd i gyflwyno proses fwy llyfn, anfeddygol seiliedig ar hunan-ddatgan ac yn unol â’r arfer rhyngwladol gorau.
- Cefnogi ymdrechion i ddiwygio’r Ddeddf Cydraddoldeb i gynnwys ‘hunaniaeth rhywedd’ fel nodwedd warchodedig ac i dynnu’r termau ‘ailbennu rhywedd’ a ‘thrawsrywiol’ allan o’r Ddeddf.
- Cefnogi ymdrechion dros gydnabyddiaeth lawn a gwarchodaeth rhag camwahaniaethu i bobl anneuaidd dan y gyfraith.
- Mewn llywodraeth, i wneud Cymru yn wlad sy’n arwain y byd mewn gofal iechyd o ansawdd uchel i bobl draws ac mewn hawliau traws yn ehangach.
- Parhau i ymgyrchu dros ddatganoli’r hawl i ddeddfu ar faterion cydraddoldeb, fel y bydd gan ein Senedd y pŵer priodol i warchod pobl draws ac eraill sy’n dioddef rhagfarn a chamwahaniaethu.
- Cefnogi hawl pobl draws i barhau i gyrchu gwasanaethau a chyfleusterau yn unol â’u hunaniaeth rhywedd.
At hynny, rydym yn cymeradwyo'r cynnig gan Arweinydd y Blaid i gyflwyno cyfres o ddigwyddiadau hyfforddi gorfodol i ddeall ein cyfrifoldeb fel cynrychiolwyr plaid yn well mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig fel y'u diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant ymwybyddiaeth traws a ddarperir gan sefydliad a gydnabyddir o fewn y gymuned draws.
Rydym hefyd yn cymeradwyo cynnig yr Arweinydd bod y Blaid, mewn ymgynghoriad â'r gymuned LHDT a Plaid Pride, yn mabwysiadu diffiniad o drawsffobia i helpu i sicrhau bod y blaid yn lle diogel a chroesawgar i bobl draws, ac ymrwymo i weithredu yn unol â'i gwaharddiad llym ar ymddygiad ac iaith drawsffobig.