Victoria Griffiths
Ymgeisydd Aberafan
Soniwch amdanoch eich hun
Rwy’n byw yn Aberafan ac wedi bod yno ers 20 mlynedd. Rwy’n briod, a thri o blant sy’n oedolion erbyn hyn. Cefais fy magu yn Llwchwr, Abertawe, a symud i Bort Talbot pan oedd fy mab yn dair oed.
Rwy’n llyfrbryf digyfaddawd. Rwyf wrth fy modd yn darllen. Byddaf yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol. Rwyf wedi gweithio gyda phobl o bob math, mewn gwasanaethau i gwsmeriaid trwy f’oes. Rwy’n berson pobl yn sicr, ac wrth fy modd gyda’r ymdeimlad cryf o gymuned sydd gennym yma yn Aberafan.
Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?
Rhaid i ni fynnu bod San Steffan yn edrych eto ar Fformiwla Barnett a mynnu ein cyfran deg o gyllid o Lundain. Fel aelod o’r UE, derbyniodd Cymru lawer o gymorth rhanbarthol - gwyddom yn awr na fydd San Steffan yn rhoi’r arian sy’n cyfateb i hynny.
Yn y tymor hwy, rwy’n credu ei bod yn bryd gosod sylfeini annibyniaeth i Gymru i ganiatáu i ni gael grym dros ein heconomi ein hunain a gwneud bywydau pobl Cymru yn well.
Beth wnewch chi dros Aberafan petaech yn cael eich ethol?
Buaswn yn mynnu mwy i Aberafan – mae hynny’n golygu mwy o gefnogaeth i fusnesau newydd a rhai sy’n bod eisoes, mwy o ymwneud â phobl ifanc, a mwy o arian a chefnogaeth i’r celfyddydau.