Ysgol Haf 2023

Glan Llyn

Cynhelir Ysgol Haf eleni yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn, ger y Bala, rhwng dydd Gwener 21 a dydd Sul 23 Gorffennaf.

Gan ddechrau am 3pm ddydd Gwener a gorffen am hanner dydd ddydd Sul bydd y penwythnos yn cynnwys cyfle i drafod hanes, polisi a chyfeiriad y blaid yn ogystal â hyfforddiant manwl ar sut i frwydro ac ennill seddi yn yr etholiadau sydd i ddod.

Caniateir i unrhyw aelod o’r Blaid fynychu ac yn y gorffennol, mae’r Ysgol Haf wedi bod yn gyfle gwych i aelodau’r Blaid o wahanol rannau o Gymru, ynghyd â rhai o weithredwyr ein chwaer bleidiau o bob rhan o Ewrop, ddysgu oddi wrth ei gilydd. Yn ogystal â’r sesiynau ffurfiol bydd nifer o weithgareddau cymdeithasol. Eleni, am y tro cyntaf, rydym hefyd yn cynnig cyfle i deuluoedd fanteisio ar ystod o weithgareddau i blant ar y safle.

Cynhwysir llety a phrydau bwyd.

Os ydych yn bwriadu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd Ysgol Haf, gallwch gynllunio eich taith ar wefan Traveline Cymru. Dylech wedyn gysylltu â Sarah King i drefnu lifft i Lan-llyn o naill ai Llanuwchllyn neu’r Bala.

  • Opsiwn 1: Tocyn penwythnos: £75
  • Opsiwn 2: Tocyn penwythnos pobl ifanc: £50
  • Opsiwn 3: Tocyn diwrnod £25 y dydd (yn cynnwys cinio)
  • Opsiwn 4: Gweithgareddau hanner diwrnod i blant: £25

Gallwch archebu eich lle drwy glicio yma.

Am fwy o wybodaeth am y ganolfan yng Nglan-llyn cliciwch yma.

Glan Llyn

This year's Ysgol Haf (summer school) will be held at the Glan-llyn Urdd Centre near Bala, between Friday the 21st and Sunday the 23rd of July.

Starting at 3pm on Friday and finishing at noon on Sunday, the weekend will include an opportunity to discuss the history, policy and direction of the party as well as detailed training on how to fight and win seats in the upcoming elections.

Any member of the party is allowed to attend and in the past, the Ysgol Haf has been a great opportunity for party members from different parts of Wales together with some of the activists of our sister parties from all over Europe learn from each other. In addition to the formal sessions there will be a number of social activities. This year, for the first time, we are also offering families the opportunity to take advantage of a range of activities for children on site.

Accommodation and meals are included.

If you plan to use public transport to get to Ysgol Haf, you can plan your journey on the Traveline Cymru website. You should then contact Sarah King to arrange a lift to Glan-llyn from either Llanuwchllyn or Bala.

  • Option 1: Weekend ticket: £75
  • Option 2: Young people's weekend ticket: £50
  • Option 3: Day ticket £25 per day (includes lunch)
  • Option 4: Half day activities for Children: £25

You can book your place by clicking here.

For more information about the centre in Glan-llyn click here.

Pryd

-

-

Ble

Gwersyll yr Urdd Glan-llyn, Y Bala
Gwersyll yr Urdd Glan-llyn
Llanuwchllyn LL23 7ST

Map Google a chyfarwyddiadau

Cyswllt

Sarah King

029 20 472272
Rhannu

Tocynnau

£25.00 GBP · Prynu tocynnau