Canol trefi

Mae canol trefi a phentrefi wrth galon eu cymunedau. Fel canolfannau siopa, maen nhw wedi cael eu peryglu gan dwf mewn siopau enfawr a pharciau manwerthu y tu allan i’r dref, a thwf sylweddol mewn siopa ar y rhyngrwyd yn ystod pandemig Covid-19.

Bydd Llywodraeth Plaid Cymru:

  • Yn gosod cyfrifoldeb statudol ar gynghorau lleol i reoli canol trefi sydd â 30 neu fwy o safleoedd masnachol. Bydd hyn yn cynnwys penodi Rheolwyr i gydlynu buddsoddiad mewn canol trefi, i’w cynnal, a’u hyrwyddo, gan gynnwys cynhyrchu Cynlluniau Gweithredu Canol Trefi.
  • Yn dynodi cyllid refeniw a chyfalaf ar gyfer Rhaglen Dadeni Trefol Cymru i gael ei hadnewyddu bob pum mlynedd.
  • Yn manteisio ar botensial gweithio o bell a gweithio gwasgaredig drwy greu rhwydwaith cenedlaethol o ganolfannau cydweithio wedi’u gwasanaethu ym mhob cymuned yng Nghymru. Er mwyn parhau i weithio o bell cyn i’r arfer gael ei golli, dylai’r don gyntaf o hybiau gweithio o bell cyflymder uchel fod ar waith ac yn barod i’w gweithredu ymhen rhai wythnosau, gan ddefnyddio adeiladau fel banciau, swyddfeydd post a siopau yng nghanol trefi, a chapeli neu dafarndai gwag mewn cymunedau llai.
  • Yn deddfu i ddiogelu lleoliadau diwylliannol rhag cael eu dinistrio, eu hailddatblygu, neu golli eu trwydded oherwydd tresmasu.
  • Yn darparu mwy o fuddsoddiad a chefnogaeth ariannol ar gyfer seilwaith cymdeithasol, gan gynnwys gofodau cymunedol, llyfrgelloedd a pharciau, a darparu mynediad gwell ar gyfer pobl anabl.
  • Lle bo’n briodol, yn gwneud lloriau uchaf safleoedd yng nghanol trefi’n ddi-dreth, a diwygio canllawiau cynllunio ar gyfer safleoedd o’r fath i hwyluso eu trawsnewidiad yn breswylfa, swyddfa neu ddefnydd cyflogaeth arall.
  • Lle bo’n briodol, yn gwneud canol trefi sydd â chyfraddau swyddi gwag uchel iawn (20 y cant neu fwy) yn Barthau Menter di-dreth, gyda phecyn cymorth a chyngor arall wedi’i ddarparu gan Ffyniant Cymru, ein hasiantaeth menter newydd.
  • Yn grymuso awdurdodau lleol i weithredu ar dir ac adeiladau stryd fawr gwag, gan gynnwys darparu is-brydlesi a phrydlesi hir i sefydliadau, busnesau a mentrau lleol, i hyrwyddo presenoldeb lleol ystod eang o sefydliadau ar y stryd fawr.
  • Yn cynorthwyo busnesau i symud o’r cyrion i greu canol trefi hyfyw a bywiog.
  • Yn cyflwyno categori newydd (Gradd III) o adeiladau rhestredig – Adeiladau o bwysigrwydd lleol – lle bydd angen caniatâd cynllunio cyn eu diwygio’n sylweddol neu eu dymchwel.

Cartrefi a Chymunedau: darllen mwy