Diwygio’r Dreth Gyngor

Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn diwygio’r dreth gyngor er mwyn ei gwneud yn fwy teg ac yn fwy blaengar. Byddwn ni’n cynnal ailbrisiad, yn cynyddu nifer y bandiau ar ben uchaf gwerthusiadau tai, ac yn sicrhau bod y dreth gyngor yn fwy cyfrannol â gwerth yr eiddo. Yn ogystal, byddwn ni’n cyflwyno system newydd ar gyfer dyrannu grant Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol, gyda fformiwla ar sail anghenion yn cynnwys ystod o ffactorau, gan gynnwys tlodi a gwledigrwydd.

Pam fod angen diwygio’r dreth gyngor

Mae’r dreth gyngor yn hen ffasiwn, yn anflaengar, ac yn wyrdroëdig. Mae gwerth tai mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru wedi newid yn ystod y ddeunaw mlynedd ers yr ailbrisio diwethaf yn 2003. Er enghraifft, mae wedi cynyddu fwy na dwywaith cymaint ym Mlaenau Gwent ag y mae yn Wrecsam. Mae eiddo mewn bandiau treth cynyddol fympwyol. Gall dwy aelwyd sy’n byw mewn eiddo o werth tebyg yn yr un awdurdod lleol fod yn talu biliau treth sydd â channoedd o bunnoedd o wahaniaeth rhyngddynt, gan fod eu heiddo’n arfer bod yn werth swm gwahanol yn 2003. Mae’r dreth gyngor hefyd yn hynod anflaengar o ran gwerth eiddo.

Byddai treth gyngor fwy cyfrannol yn lleihau’r bwlch mewn cyfoeth eiddo rhwng perchnogion eiddo gwerth uchel ac isel. Rydyn ni’n disgwyl y bydd 20 y cant o’r cartrefi yn y rhan isaf o bump dosbarthiad incwm yn gweld eu biliau treth gyngor yn gostwng mwy na £200.

Byddwn ni’n cyflwyno cynigion ar gyfer un Dreth Dir ac Eiddo yn cynnwys tir preswyl, masnachol a diwydiannol (bydd tir amaethyddol yn parhau i fod wedi’i eithrio) – gan ddechrau drwy sgrapio’r system bresennol o ardrethi annomestig yn ystod y tymor hwn o’r Senedd.

Cartrefi a Chymunedau: darllen mwy