Unnos – Tir a Thai Cymru

Cwmni dan berchnogaeth y cyhoedd fydd Unnos – Tir a Thai Cymru, a bydd yn atebol i Lywodraeth Cymru, ac yn adrodd yn ôl i’r Senedd. Fel cwmni nid-er-elw-dosbarthadwy, bydd Unnos yn hunangynhaliol drwy’r taliadau y bydd yn eu codi am ei wasanaethau a’i gynhyrchion.

Ar adeg pan fo cyfraddau llog yn is nag erioed, mae’r ffrydiau rhent o ddatblygiadau tai cymdeithasol newydd yn gynyddol atyniadol i fuddsoddwyr hirdymor fel cronfeydd pensiwn. Gan weithredu drwy Unnos, bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn defnyddio cyllid gan y buddsoddwyr hirdymor hyn i ariannu cynnydd sylweddol a pharhaus yn y ddarpariaeth o dai cymdeithasol a fforddiadwy yng Nghymru, gan ddefnyddio cyfamod Llywodraeth Cymru i leihau cyfraddau llog ymhellach lle bo’n ddymunol gwneud hynny.

Bydd Unnos:

  • Yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer arfer da ym maes adeiladu yn y sector tai, mewn perthynas â thai newydd i ddechrau, ond yn gynyddol mewn meysydd eraill hefyd, fel ôl-osod tai, a bydd yn ffynhonnell o gyngor ac arbenigedd i gymdeithasau tai ac i Awdurdodau Lleol sy’n dymuno ehangu eu gweithgarwch yn y sector tai.
  • Yn creu cadwyni cyflenwi yng Nghymru ac yn defnyddio busnesau a gweithluoedd lleol, gan gefnogi’r economi leol ac adeiladwyr tai sy’n bodoli yng Nghymru sydd wedi cael eu gwasgu allan gan duedd y system gynllunio tuag at ddatblygwyr mawr.
  • Yn chwarae rôl strategol ar gyfer crynhoi tir a phrynu gorfodol, gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a phartneriaid eraill, gan froceru ar draws adrannau Llywodraeth Cymru i ddod â thir i’r farchnad ac eiddo ar gyfer eu trosi’n breswylfeydd.
  • Yn canolbwyntio ar ddulliau oddi ar y safle / Dulliau Adeiladu Modern. Bydd yn cael ei ddarparu gyda’r nod o sefydlu cyfleusterau cynhyrchu (drwy fenthyciad neu grant gan Lywodraeth Cymru) i gynhyrchu unedau tai. Bydd gwelliant ar unwaith i ansawdd amgylcheddol tai cymdeithasol newydd o ganlyniad uniongyrchol i hyn.
  • Yn cefnogi busnesau adeiladu bach a chanolig lleol drwy gontract fframwaith cenedlaethol ar gyfer caffael tai. Bydd yn anelu cymorth ariannol y Llywodraeth i’r sector, wedi’i sianelu drwy’r Banc Datblygu, at ddatblygwyr llai sydd â phrosiectau dichonadwy nad ydynt yn gallu codi cyllid prif ffrwd y sector preifat, gan gyfyngu ar elw datblygwyr a chyfyngu cymorth ar gyfer prisiau tai gwirioneddol fforddiadwy.
  • Yn cydweithio gydag Awdurdodau Lleol a Chymdeithasau Tai i ddatblygu portffolio o fathau o dai i fodloni eu gofynion ac i gytuno gyda nhw ar biblinell alw.
  • Yn darparu gwasanaeth cynnal a chadw ar gyfer yr eiddo a gaiff ei adeiladu, fel y bydd ymagwedd ddi-dor rhwng cynhyrchu a gwaith cynnal a chadw.
  • Yn cynnwys, fel rhan o’i chenhadaeth, ddull adeiladu tai sy’n defnyddio’r lefel isaf bosib o garbon, o ran adeiladu ac o ran defnydd o ynni.

Cartrefi a Chymunedau: darllen mwy