Chwaraeon

Byddwn ni’n hyrwyddo cyfranogiad mewn chwaraeon ar bob lefel ac i bob oedran ledled Cymru, gan weithio gyda chyrff llywodraethu chwaraeon, ysgolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol, a gweithwyr ieuenctid.

Byddwn ni’n datblygu ein rhaglen Ysbrydoli Cymru ymhellach, i hyrwyddo cyfranogiad mewn chwaraeon yng Nghymru, gan ddilyn esiampl Partneriaethau Chwaraeon Lleol yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Byddwn ni’n annog mwy o gyfranogiad ymhlith pobl ifanc – ac yn enwedig ymhlith merched yn eu harddegau a grwpiau eraill sydd wedi’u tangynrychioli – drwy annog darlledwyr cyhoeddus i roi canran fwy o amser darlledu i chwaraeon menywod, yn enwedig y timau rygbi a phêl-droed menywod cenedlaethol.

Byddwn ni’n ymchwilio i’r potensial o gael pwll nofio maint Olympaidd ar gyfer y gogledd. Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i nofwyr dawnus o’r gogledd sy’n cael eu dewis i gynrychioli Cymru deithio i Fanceinion, Lerpwl, Abertawe neu Gaerdydd er mwyn hyfforddi.

Digwyddiadau chwaraeon

Byddwn ni’n gwneud cais i ddod â’r Tour de France i Gymru, i ddynion a menywod, ac yn gweithio gyda chymdeithasau chwaraeon a’r diwydiant twristiaeth i nodi cyfleoedd eraill i Gymru groesawu digwyddiadau rhyngwladol eraill.

Byddwn ni’n datblygu cais i gynnal Gemau’r Gymanwlad yng Nghymru yn 2030 neu 2034.

Dathlu llwyddiannau chwaraeon

Rydyn ni’n cefnogi datblygu amgueddfa bêl-droed Cymru yn Wrecsam, lle sefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, i arddangos hanes pêl-droed yng Nghymru. Byddwn ni hefyd yn cefnogi cynigion i sefydlu Bwrdd Criced i Gymru, a allai dros amser droi at yr holl fformatau criced amrywiol.

Chwaraeon a’r Gymraeg

Fel cenedl ddwyieithog, mae’n bwysig bod ein holl gyrff llywodraethu a sefydliadau mawr yn adlewyrchu’r ddwy iaith genedlaethol. Byddwn ni’n disgwyl iddynt ddatblygu cyrsiau hyfforddi priodol a gwybodaeth farchnata yn Gymraeg ac yn Saesneg. Fel rhan o’n hymrwymiad i greu 1,000 o ofodau Cymraeg newydd, byddwn yn cynnig cymhellion ar gyfer clybiau chwaraeon Cymraeg eu hiaith.

Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon: darllen mwy