Darlledu a’r Cyfryngau

Mae argyfwng Covid-19 wedi amlygu pwysigrwydd newyddiaduraeth a newyddion wedi’i ariannu’n dda. Mae hefyd wedi amlygu’r anialwch newyddion ledled Cymru, sydd wedi rhwystro negeseuon iechyd y cyhoedd Llywodraeth Cymru yn hytrach na’u cryfhau.

Ar yr un pryd, rydyn ni wedi gweld twf cyflym mewn rhwydweithiau teledu rhyngwladol sydd wedi mynd law yn llaw â gelyniaeth gynyddol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig tuag at y BBC, ac ar lefel leol rydyn ni wedi gweld cynnwys lleol yn gwanhau ar radio masnachol a dirywiad mewn papurau newydd lleol.

Darlledu

Byddwn ni’n pwyso am ddatganoli darlledu a thelathrebu yn llwyr i Gymru, gan gynnwys grymoedd rheoleiddio, trethiant ac ariannol. Fel cam cyntaf, byddwn ni:

  • Yn sefydlu corff darlledu a thelathrebu i Gymru, yn annibynnol ar y llywodraeth, a fydd â chylch gwaith a fydd yn cynnwys cryfhau democratiaeth leol a chenedlaethol Cymru a’r Gymraeg. Bydd y corff newydd yn defnyddio pob grym rheoleiddiol, ariannol ac arall sydd ar gael er mwyn cyflawni ei gylch gwaith. Bydd ei rymoedd yn cynnwys gosod telerau trwydded sianel 3 nesaf Cymru, er mwyn gwella allbwn cyfryngau Cymru a sicrhau mwy o gynnwys lleol a Chymraeg ar deledu a radio lleol.
  • Yn sefydlu Menter Ddigidol Gymraeg i wella’r defnydd o’r iaith a’r mynediad ati mewn oes aml-lwyfan.
  • Yn pwyso am ardoll ar ddarparwyr digidol a phreifat er mwyn gwella darlledu cyhoeddus a darpariaeth y cyfryngau.
  • Yn pwyso am ddatganoli grymoedd dros yr holl ddarlledu cyhoeddus Cymraeg a Saesneg, ynghyd â grymoedd rheoleiddio radio masnachol a theledu lleol.

Comisiwn y Cyfryngau

Byddwn ni’n sefydlu Comisiwn Cyfryngau Cymru i adolygu’r ddarpariaeth bresennol o newyddion a darpariaeth gwybodaeth yng Nghymru, ac i archwilio ffyrdd y gellir ei chefnogi’n well a’i datblygu ar bob lefel. Bydd gofyn iddo adrodd ymhen 12 mis, a bydd yn ymchwilio i’r canlynol:

  • Tueddiadau cynulleidfaoedd Cymru o ran derbyn y newyddion ar draws gwasanaethau teledu, radio, print, ac ar-lein.
  • Cymariaethau rhyngwladol o gynlluniau cefnogi’r cyfryngau, gyda’r bwriad o argymell mecanweithiau cefnogaeth priodol ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru.
  • Y potensial ar gyfer newyddiaduraeth leol a gorleol sy’n datblygu’r ymdeimlad o gymuned a lle.
  • Y potensial ar gyfer gwella rhwydweithiau newyddion digidol Cymraeg a Saesneg, ac i greu gwasanaethau cenedlaethol sy’n cysylltu papurau newydd a gorsafoedd radio lleol a gorleol sy’n cynhyrchu allbwn cod agored.
  • Llwybr at gyflwyno statws ‘asedau o werth cymunedol’ ar bapurau newydd lleol, gan sicrhau nad oes modd cau teitlau dros nos heb waith craffu priodol.
  • Darpariaeth ar-lein lle mae mentrau calonogol, er yn wasgaredig, y dylem geisio adeiladu arnynt.

Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon: darllen mwy