Diwylliant – wrth galon y genedl

Mae diwylliant wrth galon ffordd o fyw ein cenedl. Mae’n ein diffinio ni. Mae’n hanfodol i bob cymuned. Mae’n hanfodol i’n lles a’n cydlyniant fel cymdeithas. Diwylliant hefyd yw’r ffordd mae ein hunaniaethau amrywiol yn ymgysylltu â’i gilydd, a’r ffordd rydyn ni’n ymgysylltu â’r byd. Mae i ba raddau rydyn ni’n cydnabod hyn mewn ffordd ymarferol yn fesuriad o gymdeithas wâr ac aeddfed.

Am y rhesymau hyn oll, byddwn ni’n rhoi’r celfyddydau, diwylliant a chwaraeon – pob un yn ffordd o fynegi ein hanes a’n traddodiadau cymdeithasol, ynghyd â’n dyheadau ar gyfer y dyfodol – wrth galon ein holl waith polisi cyhoeddus a gweithgarwch llywodraethu, mewn llywodraeth lleol a chanolog, mewn datblygiad economaidd, ym maes iechyd ac addysg, ac mewn perthynas â’n hamgylchedd, boed hynny’n drefol neu’n wledig. Bydd gofyn i bob adran o’r llywodraeth lunio ymateb cadarnhaol a pherthnasol.

Dyma’r hyn rydyn ni’n ei olygu o ran y strategaeth ddiwylliannol hollol gynhwysol rydyn ni’n bwriadu ei meithrin a’i chynnal, er mwyn ailsefydlu’r cysylltiadau amrywiol a’r profiadau a rennir sydd wedi cael eu peryglu gan y pandemig, ond sydd, gyda’i gilydd, yn creu cymdeithas.

Yn y broses hon, byddwn ni’n meithrin y creadigrwydd a’r arloesedd a fydd yn hanfodol i lwyddiant ein heconomi yn y dyfodol, gan ein galluogi ni i gyfoethogi’r ymdeimlad o le ym mhob cymuned, a chyflawni dyheadau penodol ac ymhlyg Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon: darllen mwy