Ehangu graddol yn “achubiaeth” i deuluoedd yn ystod yr argyfwng costau byw - Heledd Fychan AS

Mae buddsoddiad sylweddol o bron i £100m yn cael ei wneud gan Blaid Cymru a Llywodraeth Cymru drwy’r Cytundeb Cydweithio i wella argaeledd gofal plant, hybu darpariaeth Gymraeg ac ariannu lleoedd rhan amser am ddim.

Mae'r cyllid yn cynnwys £26m ar gyfer cam nesaf ehangu gofal plant rhan-amser Dechrau'n Deg; £70m ar gyfer gwelliannau a gwaith cynnal a chadw hanfodol ar gael i bob lleoliad gofal plant a £3.8m i gefnogi mwy o ddarparwyr gofal plant i wella eu darpariaeth Gymraeg.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros blant a phobl ifanc, Heledd Fychan AS, y bydd y buddsoddiad – sy’n rhan o gynllun graddol i ehangu’r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar i bob plentyn dwy oed yng Nghymru – yn “achubiaeth” i deuluoedd wrthi i’r argyfwng costau byw waethygu.

Meddai,

“Mae gofal plant addysgiadol o ansawdd da ac am ddim yn rhan hanfodol o roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant. Yn wyneb argyfwng costau byw, fe fydd yn achubiaeth i lawer o deuluoedd, drwy ddiddymu costau, a hefyd drwy gael gwared ar y rhwystr i rieni sydd eisiau dychwelyd i’r gwaith.

“Fyddai hyn ddim wedi digwydd heb ymgyrchu diflino Plaid Cymru, a’n Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru. Roedd gofal plant am ddim yn addewid allweddol yn ein hymgyrch etholiadol, ac rwy’n falch o rôl fy mhlaid yn dangos yr hyn y gall Cymru ei wneud pan fydd yn cymryd rheolaeth dros y grymoedd sydd ganddi.

“I Blaid Cymru, mae gofal plant am ddim i blant dwy oed yn gam cyntaf pwysig yn ein gweledigaeth ar gyfer gofal plant rhad ac am ddim i bawb.

“Mae manteision amlwg yn deillio o ofal plant am ddim yn golygu ein bod nid yn unig yn rhoi’r dechrau gorau i’n plant, ond yn mynd i wneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl yn y tymor hwy.