Gall 2025 gynnig cyfle am ddechrau newydd i Gymru medd Arweinydd Plaid Cymru mewn neges o obaith ar gyfer y flwyddyn newydd.

“Gwneud yr hyn sy’n iawn i Gymru a’r hyn sydd orau i’n cymunedau,” dyna fydd yr egwyddor fydd yn arwain y blaid i mewn i ail chwarter y mileniwm, medd Rhun ap Iorwerth.

Gyda llai na 500 diwrnod i fynd tan Etholiad y Senedd, apeliodd Mr ap Iorwerth ar y rhai “sydd wedi eu siomi gan Lafur” i “weithio gyda Plaid Cymru i adeiladu Cymru fwy gobeithio a llewyrchus gyda’n gilydd.”

Yn ei neges Blwyddyn Newydd, dywedodd Rhun ap Iorwerth Arweinydd Plaid Cymru:

“Mae pob blwyddyn newydd yn llawn cyfleoedd newydd, ond gwn y bydd nifer ohonoch yn wynebu’r un hen heriau.

Biliau yn cynyddu’n gyflymach na chyflogau.

Ysgolion dan bwysau.

Yr NHS – er gwaethaf ymdrechion y staff ardderchog – yn gwegian.

A Llywodraeth Lafur heb unrhyw fath o gynllun.

Dwi’n deall.

Gall 2025 gynnig cyfle am ddechrau newydd i Gymru – hefo Plaid Cymru yn cynnig rhywbeth gwahanol.

I ni, yr hyn sy’n iawn i Gymru a’r hyn sydd orau i’n cymunedau sydd yn bwysig.

Boed hynny drwy fynnu’r biliynau sy’n ddyledus o HS2, neu elwa o’n hadnoddau naturiol drwy reoli Ystadau’r Goron, rydyn ni’n brwydro dros degwch er mwyn datgloi llawn botensial Cymru.

Wrth i Blaid Cymru ddathlu 100 mlynedd o amddiffyn Cymru a hefo Etholiad y Senedd lai na 500 diwrnod i ffwrdd, rydan ni’n barod i arwain pennod newydd yn hanes ein gwlad. Un lle mae’r NHS yn cael ei gefnogi, gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu gwerthfawrogi, ac economi gryfach lle fo tegwch wrth wraidd y cyfan.

Dwi’n gwybod ei bod hi wedi bod yn anodd ond os ydych wedi eich siomi gan Lafur, os ydych chi’n edrych am obaith nid anobaith, ac atebion nid sloganau gwag, yna gweithiwch hefo ni ym Mhlaid Cymru i adeiladu Cymru fwy llewyrchus a mwy gobeithiol hefo ein gilydd.

Blwyddyn newydd dda i chi gyd.”