Mae’r achos dros annibyniaeth i Gymru bellach “yn y brif ffrwd” meddai Arweinydd Plaid Cymru Adam Price ar ôl i arolwg barn newydd ddarganfod bod cefnogaeth i Gymru annibynnol ar 32%.

Mae Pôl Baromedr Gwleidyddol diweddaraf Cymru, a gomisynwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, ITV a You Gov, wedi darganfod bod 25% yn cefnogi annibyniaeth i Gymru - cynnydd o bedwar pwynt ers yr arolwg diwethaf. Wrth eithrio ‘Ddim yn Gwybod’ wedi'i eithrio, y ffigur yw 32%.

Dywedodd yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethu Cymru mai hon oedd y lefel uchaf o gefnogaeth a gofnodwyd eto ar gyfer annibyniaeth Cymru

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod argyfwng Covid wedi dangos yn glir “anhrefn ac anghydraddoldeb” San Steffan.

Dywedodd Mr Price mai pleidlais i Blaid Cymru yn unig ar y 6ed o Fai y flwyddyn nesaf fyddai’n cynnig Prif Weinidog sydd o blaid annibyniaeth.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru y gallai Cymru ddod yn annibynnol yn y 2020au ond dim ond trwy bleidleisio Plaid Cymru y byddai hyn yn digwydd.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price MS,

“Mae achos annibyniaeth Cymru bellach yn wirioneddol yn y brif ffrwd.

“Gydag argyfwng Coronavirus yn datgelu’n glir yr anhrefn a’r anghydraddoldeb sydd wrth wraidd sefydliad San Steffan, does ryfedd ein bod wedi bod yn dyst i ymchwydd o’r fath mewn cefnogaeth i Gymru newydd ac annibynnol - cenedl fydd yn sefyll yn falch ar ei thraed ei hunan ac yn rheoli ei dyfodol ei hun.

“Gyda llai na blwyddyn tan etholiadau’r Senedd, dim ond pleidlais dros Blaid Cymru ar 6ed o Fai fydd yn cynnig Prif Weinidog o blaid annibyniaeth – gyda llywodraeth fyddai’n rhoi cyfle i bobl Cymru ddewis dyfodol annibynnol.

“Gall Cymru ddod yn genedl annibynnol yn y 2020au, ond mae’n rhaid i ni wneud i hynny ddigwydd. Ymunwch â Phlaid Cymru.