Mae Plaid Cymru heddiw (dydd Mercher 8 Ebrill) wedi nodi cynlluniau i greu mwy na 35,000 o swyddi drwy sicrhau bod mwy o arian cyhoeddus yn cael ei wario gyda busnesau Cymru, cyn lansiad maniffesto’r blaid yfory.

Dywedodd y Blaid y gallai ‘dull newydd’ o gaffael cyhoeddus chwarae rhan drawsnewidiol mewn cryfhau economi Cymru, cefnogi cwmnïau lleol a chreu swyddi â chyflogau da ledled y wlad.

Mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gwario mwy nag £8 biliwn bob blwyddyn ar gaffael.

Mae Plaid Cymru yn dadlau bod gormod o'r arian hwnnw’n gadael Cymru, yn hytrach na chefnogi busnesau a chymunedau lleol.

Byddai cynllun Plaid Cymru yn cynyddu cyfran y contractau cyhoeddus a ddyfernir i gwmnïau yng Nghymru o tua 55% i o leiaf 70% - newid y mae'r blaid yn dweud y gallai gefnogi degau o filoedd o swyddi newydd a helpu i adeiladu cadwyni cyflenwi lleol cryfach mewn ystod eang o sectorau gan gynnwys bwyd, amaethyddiaeth a thechnoleg.

Mae'r dull yn adeiladu ar fodelau llwyddiannus mewn mannau eraill, lle mae cyfeirio gwariant cyhoeddus yn lleol wedi rhoi hwb i fusnesau bach, wedi cynyddu gwydnwch mewn economïau lleol, ac wedi cadw cyfoeth yn cylchredeg o fewn cymunedau.

Mae Plaid Cymru yn dweud mai ei gweledigaeth yw Cymru lle mae ffyniant yn cael ei rannu - lle gall busnesau ffynnu, lle gall pobl gael mynediad at waith da, â chyflog da, a lle mae buddsoddiad cyhoeddus yn helpu i adeiladu economïau lleol cryfach.

Bydd y blaid yn lansio ei maniffesto llawn yfory (dydd Iau 9 Ebrill).

Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru a’u llefarydd dros yr economi, Luke Fletcher,

“Mae gan economi Cymru botensial enfawr ond yn rhy aml, nid yw’r cyfoeth a grewn yn aros yma.

“Mae gormod o arian Cymru yn llithro allan o’n heconomi. Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cadw mwy ohono yma – gan greu dros 35,000 o swyddi a chefnogi busnesau Cymru.

“Mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod arian cyhoeddus yn gweithio i Gymru – cefnogi cwmnïau lleol, cryfhau cadwyni cyflenwi mewn ystod eang o sectorau gan gynnwys technoleg ac amaethyddiaeth, ac adeiladu economi fwy gwydn ar gyfer y dyfodol.

“Mae’n newid ymarferol, sy’n gwneud synnwyr. Defnyddio’r grym sydd gennym eisoes i ddarparu manteision go iawn i bobl a chymunedau ledled ein gwlad.”