“Gellir taclo hyn yn uniongyrchol yng Nghymru” – Sioned Williams

Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi cynllun pum pwynt i fynd i’r afael â’r argyfwng Cost-Byw yng Nghymru.

O gymorth gyda prisiau ynni i gefnogi plant a phobl ifanc, mae’r cynllun yn edrych ar fesurau y gall Llywodraeth Cymru a San Steffan eu cymryd i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yng Nghymru.

Daw’r cynllun cyn digwyddiad ‘Cymru a’r Argyfwng Costau Byw’ a gynhelir gan lefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams AS. Bydd y digwyddiad yn dod â gwleidyddion Plaid Cymru, ymgyrchwyr, arbenigwyr ac aelodau’r cyhoedd ynghyd mewn trafodaeth am y cynnydd mewn costau byw.

Mae’r cynllun yn manylu ar y camau y gellir eu cymryd:

  1. Helpu pobl gyda'u biliau ynni - drwy ehangu'r cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf i'r Gwanwyn.
  2. Cefnogi plant a phobl ifanc - drwy gyflymu'r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim a chynyddu'r LCA
  3. Canslo dyled - ôl-ddyledion treth gyngor a dyled prydau ysgol
  4. Cymorth gyda thai - trwy ymestyn y Grant Caledi Tenantiaeth a chapio codiadau rhent tai cymdeithasol a chynyddu'r gronfa taliadau tai yn ôl disgresiwn
  5. Gwrthdroi’r toriad i Gredyd Cynhwysol – a datganoli pwerau dros les

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams AS:

“Mae’r argyfwng costau byw eisoes yn achosi caledi annerbyniol i ormod o deuluoedd ledled Cymru. A chredwn y gellir gwneud mwy i atal hyd yn oed mwy o deuluoedd Cymru rhag cael eu gwthio i dlodi a dioddef effeithiau dinistriol yr argyfwng costau byw. Yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, mae hyn wedi’i waethygu gan Lywodraeth y DU – o’u toriadau i Gredyd Cynhwysol, i anwybyddu galwadau am dreth ar hap ar gwmnïau ynni – nid yw’n syndod bod cymaint o deuluoedd yn teimlo’n ddi-rym yn wyneb y storm economaidd hon.

“Mae cynllun pum pwynt Plaid Cymru yn dangos sut y gellir mynd i’r afael â hyn yn uniongyrchol yng Nghymru, i helpu pobl gyda chostau cynyddol, i gapio biliau lle bo’n bosibl, ac i ganiatáu mwy o hyblygrwydd i bobl gyda gwaith trwy gynyddu gofal plant i helpu i frwydro yn erbyn cyflogau sefydlog.

“Mae Plaid Cymru wedi galw dro ar ôl tro ar lywodraethau yng Nghymru a San Steffan i weithredu ar yr argyfwng costau byw. Nid ydym ar fin rhoi diwedd ar ein hymgyrchu, a dyna pam rwy’n cynnal digwyddiad a fydd yn dod â gwleidyddion, actifyddion, arbenigwyr a’r cyhoedd ynghyd fel y gallwn drafod sut i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn.

“Yn y cyfamser, os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif am helpu’r rhai sydd â’r anghenion mwyaf, rhaid iddyn nhw weld bod angen mwy o rym dros les a threth ar Gymru.”