Mae mwy o ASau Plaid Cymru yn golygu na fydd Cymru yn cael ei hanwybyddu gan y llywodraeth Lafur newydd, meddai Plaid Cymru.

Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru dros Gaerfyrddin Ann Davies fod y Torïaid ar eu ffordd allan a Llafur yn cynnig “dim byd newydd” i Gymru.

Dywedodd Ms Davies fod Plaid Cymru yn cynnig “dewis amgen iawn” i’r ddwy blaid yn Llundain sydd “wedi anwybyddu anghenion ein cymunedau ers llawer rhy hir”.

Mae heddiw (dydd Sadwrn 29 Mehefin) yn nodi pum diwrnod tan y diwrnod pleidleisio a dyma'r penwythnos olaf o ymgyrchu cyn i bobl fwrw eu pleidleisiau.

Mae rhai o brif addewidion Plaid Cymru yn cynnwys mynnu £4bn sy’n ddyledus i Gymru o HS2, bargen ariannu deg, a phwerau dros adnoddau naturiol i fuddsoddi yn economi’r genedl.

Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru dros Gaerfyrddin Ann Davies:

"Yr ymgyrch etholiadol yma, mae Plaid Cymru yn cynnig dewis arall go iawn i Gymru i'r ddwy blaid yn Llundain sydd wedi anwybyddu anghenion ein cymunedau ers llawer rhy hir. Rydyn ni'n gwybod bod y Torïaid ar eu ffordd allan, ond nid yw Llafur yn cynnig dim byd newydd i Gymru."

"Ym Mhlaid Cymru, mae gan bobl bencampwyr cymunedol cryf. Yn wahanol i Lafur, byddwn bob amser yn rhoi Cymru o flaen y blaid. Yn hytrach na'r meinciau cefn a fydd yn cefnogi Starmer, bydd ASau Plaid Cymru yno yn dal ei lywodraeth i gyfrif ac yn ymladd am y fargen orau dros Gymru – gwneud yn siŵr nad yw ein hanghenion yn cael eu hanwybyddu.

“Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n brwydro dros degwch i Gymru. O fynnu’r £4bn sy’n ddyledus i Gymru gan San Steffan, i fargen ariannu deg a mwy o bwerau i fuddsoddi yn ein heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus – mae gennym uchelgais i fynd i’r afael yn wirioneddol â’r heriau sy’n wynebu cymunedau ledled Cymru.

“Gyda dim ond pum diwrnod i fynd tan y diwrnod pleidleisio, rwy’n edrych ymlaen at benwythnos llawn olaf yr ymgyrch a rhannu neges bositif Plaid Cymru am Gymru decach, fwy uchelgeisiol.”