Wedi'r pandemig, mae rhaid i ni roi adfer yr economi fel blaenoriaeth i bopeth.

1. Cyflwyno chwyldro Diwydiannol Gwyrdd

Newid hinsawdd yw’r argyfwng byd-eang nesaf - rydym yn barod yn gweld ei effeithiau mewn tywydd eithafol, llifogydd, a chynnydd mewn tymereddau sy’n torri recordiau. Mae Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd ac rydym ni’n gwybod ein bod ni’n cyrraedd sawl pwynt tipio yn yr hinsawdd.

Mae’n rhaid i ni weithredu nawr, ac mae angen i fod yn radical.

Mae Plaid Cymru eisiau Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd i Gymru. Byddwn yn dod yn wely prawf ar gyfer arloesi byd-eang ar newid hinsawdd, a bydd hyn yn ein helpu i gyrraedd targed sero-net carbon erbyn 2035.

 Field of Green Energy Solar Mirror Panels


2. Cyflawni prosiectau seilwaith

Mae materion yn ymwneud â chysylltedd ac effeithlonrwydd rheilffyrdd yn ogystal â chysylltedd digidol wedi bod yn amlwg ers blynyddoedd, ac mae'r pandemig dim ond wedi neud hi’n fwy amlwg fod angen eu gwella.

Gyda llawer ohonom yn gweithio gartref mae cysylltiad rhyngrwyd dibynadwy wedi bod yn hanfodol, a theimlwyd y buddion o gael llai o geir ar ein ffyrdd a llai o lygredd yn ein haer ar draws sawl rhan o Gymru.

Byddem yn tanio economi Cymru ar ôl Cofid trwy gyflawni cysylltiad Gigabit ledled y wlad ac ehangu a moderneiddio'r rhwydwaith reilffyrdd - byddwn yn sicrhau cysylltiadau rhyngrwyd dibynadwy a chyflym ac yn gwneud trafnidiaeth reilffordd yn opsiwn ymarferol i filoedd mwy ohonom.

Speeding Bullet Train


3. Perchnogaeth Gymraeg o'r sector adnewyddadwy

Mae adeiladu'r sector adnewyddadwy yn gam brys arall sydd ei angen i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ond rydym am wneud iddo weithio i Gymru a gweithio i'n cymunedau.

Byddwn yn tyfu perchnogaeth Cymraeg o’r sector adnewyddadwy, gan sicrhau mwy o elw i gymunedau Cymru.

Rydym am ddod yn arweinwyr y byd ym maes ynni gwyrdd, gan fod o fudd i'r amgylchedd a'n heconomi.

A scene depicting renewable energy and green energy with a group of three windmills under a beautiful blue sky in Northern Ireland


4. Creu swyddi mewn gwasanaethau cyhoeddus

Mae ein gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig ein gwasanaeth iechyd, wedi bod yn rheng flaen y pandemig. Mae ei staff wedi’u gorymestyn, eu gorweithio, ac wedi neud eu gorau i'n cadw'n ddiogel.

Hyd yn oed cyn y pandemig, gwthiwyd y gwasanaethau iechyd i'r eithaf ar ôl blynyddoedd o lymder, ac roedd amseroedd aros yn annerbyniol o hir.

Byddwn yn creu miloedd o swyddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, gan gynnwys i feddygon a nyrsys i gefnogi adferiad hanfodol Cofid.

purple and pink heart shaped illustration


5. Defnyddio dull caffael lleol cyntaf

Byddwn yn defnyddio dull cyntaf lleol o gaffael a fydd yn sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn cael mwy o gyfleoedd, ac yn rhoi hwb i'r economi sylfaenol.

Farmer giving box of veg to customer