Plaid wleidyddol Gymreig yw Plaid Cymru sy'n ymroddedig i greu Cymru decach a gwyrddach, lle mae gan bawb yr un cyfle i gyrraedd eu llawn botensial - yn annibynnol o lygredd San Steffan.

Rydym yn cynrychioli pawb sy'n galw Cymru yn gartref iddynt.

A na. Does dim rhaid i chi siarad Cymraeg i bleidleisio drosom ni nac ymuno â ni neu hyd yn oed sefyll drosom ni! Mae Plaid Cymru yn blaid i bawb yng Nghymru – pa bynnag iaith(oedd) rydych chi'n eu siarad.

Felly, dyma pam y dylech ymuno â ni.

Collage of Party Members

 

1. TEGWCH A CHYDRADDOLDEB. DYNA SY'N EIN GYRRU NI.

Rydym am adeiladu cymdeithas deg a chyfiawn lle mae pawb yn cael eu trin yn gyfartal ac yn cael yr un cyfle.

Rydym am weld Cymru lle nad oes unrhyw blentyn yn mynd i'r ysgol yn llwglyd neu i'r gwely'n oer, lle mae cyfleoedd yr un fath i'r rhai yn ein trefi, ein dinasoedd a'n hardaloedd gwledig, lle gall pawb fyw bywydau diogel, iach a hapus.

Mae Plaid Cymru eisoes yn cymryd camau i wireddu hyn. Drwy ein cytundeb â Llywodraeth Cymru, byddwn yn chwarae ein rhan i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yng Nghymru a chymryd camau ar unwaith i fynd i'r afael â thai anfforddiadwy ac ail gartrefi – fel bod gan bawb yr hawl i fyw a gweithio yn y cymunedau lle cawsant eu magu.

 

2. RYDYN NI'N WYRDD. YN WYRDD IAWN.

Yr argyfwng hinsawdd yw'r argyfwng nesaf y bydd y byd yn ei wynebu.

Mae Cymru'n gyfoethog o ran adnoddau naturiol ac yn gwbl barod nid yn unig i chwarae ei rhan wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ond i ailadeiladu ein heconomi yn y broses.

Dyna pam rydym wedi bod yn ymgyrchu dros bwerau dros Ystâd y Goron i ddod i Gymru - gan ddod â photensial ynni adnewyddadwy gwerth £500m o dan reolaeth Cymru.

Credwn y gall pob rhan o gymdeithas helpu i wneud Cymru'n wlad wyrddach – o drafnidiaeth gyhoeddus werdd a fforddiadwy, defnyddio ynni adnewyddadwy i wresogi cartrefi, a phrynu a chefnogi bwyd lleol.

Oeddech chi'n gwybod? Cyfeiriwyd yn gyson at ein polisïau fel y rhai mwyaf gwyrdd allan o'r holl bleidiau gwleidyddol yng Nghymru.

 

3. O'R GYMUNED, I'R GYMUNED.

Mae Plaid Cymru yn blaid sydd wedi'i gwreiddio yn y gymuned.

Ni yw eich cymdogion, eich cyd-weithwyr, eich ffrindiau. P'un a yw'n helpu pobl sydd wedi colli eu cartrefi oherwydd llifogydd, dosbarthu parseli bwyd i'r rhai mewn angen, neu gefnogi busnesau lleol, mae Plaid Cymru allan bob dydd mewn cymunedau ledled Cymru sy'n gweithio'n galed ar ran y bobl y maent yn eu cynrychioli. 

Oeddech chi'n gwybod? Mae aelodau a chefnogwyr Plaid Cymru ym mhob cymuned ledled Cymru gan gynnwys 198 o Gynghorwyr Sir, 13 Aelod o'r Senedd a 3 AS.

 

4. RYDYM YN SEFYLL I FYNY I SAN STEFFAN.

Celwyddau cyson a llygredd gwleidyddol.

Gwario arian trethdalwyr Cymru yn talu ar brosiectau drud iawn fel HS2 (na fydd byth o fudd i Gymru) tra bod prosiectau fel trydaneiddio ein rheilffyrdd neu forlyn llanw Bae Abertawe yn cael eu canslo.

Costau byw yn codi tra bod incwm pobl yn gostwng.

Pe bai'n rhaid i ni ysgrifennu rhestr, pam nad yw San Steffan yn gweithio i Gymru, byddai'n edrych rhywbeth fel hyn.

Dydyn nhw ddim yn poeni amdanom ni na'n cymunedau.

Ond wythnos ar wythnos mae ein ASau yn sefyll i fyny i sefydliad San Steffan - cynnig llais cymunedau Cymru wrth wraidd pob sgwrs, a dwyn yr elît i gyfrif. 

Oeddech chi'n gwybod?  Cafodd ASau Plaid Cymru eu henwi fel tîm gwleidyddol sy’n gweithio caletaf yn San Steffan.

 

5. RYDYM YN Y BUSNES O ADEILADU DYFODOL GWELL

Rydym am wneud bywydau pobl Cymru yn well.

O allu gweld meddyg ar amser, swyddi lleol sy'n talu'n dda, i dai fforddiadwy, mae polisïau Plaid Cymru yn cael eu hadeiladu er budd pobl Cymru.  Dyna'r hyn yr ydym yn poeni amdano.

Rydym bob amser yn edrych i'r dyfodol ac yn gweithio tuag at wireddu potensial Cymru fel y genedl deg, werdd, annibynnol y gall fod.

 

Os ydych chi'n cytuno â ni, beth am ymuno?

Fel aelod o Blaid Cymru gallwch:

  • cymryd rhan weithredol yn ein hymgyrchoedd
  • gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich cymuned drwy helpu i ethol pencampwyr lleol Plaid Cymru
  • cael clywed eich llais a'ch syniadau eich hun drwy etholiadau mewnol a digwyddiadau plaid
  • cwrdd â phobl newydd

ac rydych chi'n cael...

  • mynediad at adnoddau a hyfforddiant
  • a cherdyn aelodaeth (swish iawn!)

Dim ond ychydig funudau y mae ymuno'n ei gymryd. Cliciwch yma i ymuno heddiw.