1. Adrannau

Mae gan Blaid Cymru sawl adran swyddogol a grwpiau cysylltiedig sy'n cynrychioli gwahanol rannau o'n cymdeithas o fewn y blaid ac yn helpu i gario neges Plaid Cymru i bawb yng Nghymru.

Mae aelodaeth ein hadrannau yn agored i bob aelod perthnasol o Blaid Cymru, felly byddwch yn siŵr o ddod o hyd i bobl debyg yn y blaid!

Mae adrannau Plaid yn cynnwys:

  • Mae Plaid Ifanc yn cynrychioli eu cymunedau, ar lefel leol a chenedlaethol, i fynd i'r afael â materion sy'n wynebu pobl ifanc.
  • Mae Plaid Pride yn cefnogi hawliau pobl LHDTQRA+ yng Nghymru, Ewrop ag ar lefel byd-eang, a siapio polisïau o fewn Plaid Cymru.
  • Mae Plaid BME yn ymgysylltu, grymuso ac eirioli leisiau Du a Lleiafrifoedd Ethnig yng ngwleidyddiaeth Cymru.
  • Mae Merched Plaid yn cynnig lle diogel i ferched drafod, ysgogi a chydweithio ar faterion sy'n bwysig iddyn nhw, ac ar yr un pryd yn annog y blaid i weithredu ar y materion hyn.
  • Mae Undeb (rhwydwaith gweithredwyr undebau llafur Plaid Cymru) yn ymgyrchu fel rhan o Blaid Cymru ar faterion undebau llafur o fewn eu hundebau eu hun ac o fewn y mudiad gweithwyr ehangach. Maent yn weithgar yn ymgyrchu dros gydraddoldeb o fewn y mudiad gweithwyr, ac yn ymladd ffasgiaeth, hiliaeth, rhywiaeth a homoffobia ble bynnag y codwyd.
  • Cafodd Cymdeithas Cynghorwyr ei sefydlu er mwyn cynorthwyo’r Blaid i gyflawni holl amcanion Llywodraeth Leol, gan gynnwys Cynghorau Sir a Chynghorau Tref a Chymuned.

 

2. Y Blaid fwyaf gwyrdd

Mae gan Blaid Cymru'r polisïau fwyaf gwyrdd o bob plaid yng Nghymru - os ydych chi'n poeni am yr amgylchedd a'r argyfwng hinsawdd, Plaid Cymru yw'r blaid i chi.

Mae polisïau Plaid ar natur a’r amgylchedd yn cynnwys:

  • Gosod targed o 2035 i ddatgarboneiddio ac i gyrraedd allyriadau sero net yng Nghymru.
  • Sefydlu cwmni datblygu ynni gyda tharged o gynhyrchu 100 y cant o drydan yng Nghymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.
  • Cyflwyno Deddf Natur gyda thargedau statudol i adfer bioamrywiaeth erbyn 2050.
  • Darparu mannau gwyrdd diogel o ansawdd da o fewn taith gerdded pum munud i bob cartref yng Nghymru.
  • Gwahardd plastigau untro sydd ddim yn hanfodol yn 2021, gan sicrhau bod dim gwastraff yn cael ei dirlenwi a dod â llosgi gwastraff i ben erbyn 2030.
  • Cynyddu lefel y buddsoddiad mewn lliniaru llifogydd i £500m yn ystod tymor y Senedd hon.

 

3. 20 mlynedd o Lafur

Mae Llafur wedi bod mewn grym yng Nghymru ers dros 20 mlynedd, ac eto mae methiant i gyrraedd targedau a hanner mesurau wedi golygu bod eu heffaith yn gyfyngedig; mae eu hamser mewn grym wedi cynnwys bwriadau da ond llywodraethu gwael.

Mae eu record ar bleidleisio yn erbyn prydau ysgol am ddim, pleidleisio yn erbyn ymchwiliad llifogydd a fyddai’n cael cynnig atebion hanfodol i’r rheini sydd wedi’u adael gyda chartrefi wedi’u difetha gan dywydd gwael, a dadlau y dylai pwerau lles aros yn nwylo’r Torïaid yn San Steffan yn siarad am blaid sydd wedi anghofio sut i ddeddfu ei werthoedd.

Mae Plaid yn gyfle i ddechrau o'r newydd.

 

4. Annibyniaeth

Nid yw San Steffan yn gweithio i Gymru. Pa bynnag blaid yn Llundain sydd â gofal, ni fydd Cymru byth yn flaenoriaeth yn San Steffan ac ni fydd San Steffan yn gwarantu ein blaenoriaethau.

Mae Cymru yn wynebu cyfnod pwysig iawn; ni all y dyfodol fod fel y gorffennol, ac ni fydd hi os ydyn ni’n penderfynu ar ein dyfodol ein hunain.

Os ydych chi eisiau i Gymru gryfach - sy'n cael ei hofni a'i pharchu gan San Steffan heb ei hesgeuluso a'i hanwybyddu - yna ymunwch â Phlaid Cymru.

 

5. Mynd i'r afael â'r argyfwng tai

Nid oes amheuaeth bod Cymru mewn argyfwng tai - mae prisiau tai ledled Cymru yn codi'n gyflym ac mae ardaloedd gwledig ac arfordirol yn gweld mewnlifiad o ail gartrefi sy'n gyrru cymunedau lleol allan o'u cartrefi.

Mae Plaid Cymru yn gweithio'n galed i wneud newid yn y maes hwn, gan lobïo'r llywodraeth i roi mwy o fesurau ar waith i sicrhau bod mwy o dai fforddiadwy ar gael ac i atal effeithiau negyddol pellach o farchnad ail gartref dirlawn.

Gyda mwy o aelodau gallwn wneud mwy o newid yn y maes hwn, felly os yw'n rhywbeth sy'n bwysig iawn i chi yna ddylech ymuno â Phlaid Cymru.