5 rheswm dros bleidleisio Plaid Cymru
Dal yn ansicr dros pwy i fwrw dy bleidlais ar y 6 o Mai? Dyma 5 rheswm dros bleidleisio dros Blaid Cymru.
1. Syniadau newydd
Dyma'r amser ar gyfer arweinyddiaeth newydd, syniadau newydd ac egni newydd i Gymru newydd.
Allwn ni ddim mynd yn ôl i sut roedd pethau cyn y pandemig. Mae arnom angen llywodraeth sydd â syniadau newydd i roi dechrau newydd inni ar yr adeg dyngedfennol hon yn ein hanes.
Dyma’r cyfle hanesyddol sydd ganddon ni o’n blaenau yn yr etholiad hwn. Yn debyg i’n cyndeidiau ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gallwn ni benderfynu wynebu’r dyfodol gyda’n gilydd, ac adeiladu gwlad newydd. Yn yr ugeinfed ganrif, Prydain oedd hynny, ond bellach yn yr unfed ganrif ar hugain, Cymru newydd yw hi.
Plaid Cymru sydd â'r rhaglen fwyaf radical o uchelgeisiol a thrawsnewidiol i gael ei chynnig gan unrhyw blaid mewn etholiad yng Nghymru ers 1945. Felly gadewch i ni ddweud "na" wrth yr un hen syniadau blinedig, ac "ie" i ddyfodol newydd.
2. Taclo Newid Hinsawdd
Rydym yn barod i wynebu her ein hamser.
Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn ein barnu ar yr hyn a wnaethom am yr argyfwng hinsawdd sy'n wynebu pob un ohonom yn awr. Oni bai bod llywodraethau ar draws y byd yn barod i sefyll i fyny digwyddiadau tywydd garw fydd y norm. Mae Plaid Cymru yn barod i wynebu'r her hon fel llywodraeth.
Byddem yn dechrau Cenhadaeth Cymru 2035 i ddatgarboneiddio ac i gyrraedd allyriadau sero-net erbyn 2035. Byddem yn sefydlu Ynni Cymru fel cwmni datblygu ynni gyda'r targed o gynhyrchu 100 y cant o drydan yng Nghymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.
Byddwn ni’n sicrhau bod pob cyllideb adrannol yn y Llywodraeth yn ymroddedig i adfer yr hinsawdd a natur.
3. Gofal cymdeithasol am ddim pan fo’i angen
Byddwn yn gofalu am bobl Cymru.
Mae gennym gynllun i drawsnewid y gwasanaeth iechyd - gyda miloedd o feddygon a nyrsys newydd.
Byddwn yn darparu canolfannau diagnostig newydd ar gyfer canser a chyflyrau eraill i sicrhau triniaeth gynnar.
Mae gennym gynllun i drawsnewid gofal cymdeithasol - gan ei wneud yn rhad ac am ddim i bawb gan dalu gweithwyr gofal cyflog da.
Bydd cydraddoldeb iechyd yn nod gan y Llywodraeth Plaid Cymru, gyda phwyslais ar fesurau ataliol sy'n gwella iechyd meddwl.
4. Cynllun i lwyddo
Wrth wraidd ein polisi economaidd mae'r angen am fywyd priodol i'n holl ddinasyddion.
Mae gennym gynllun a fydd yn trawsnewid yr economi, gan greu swyddi o safon ym mhob cymuned - dod â diweithdra ymhlith pobl ifanc i ben, dod â tlodi plant i ben, dod â digartrefedd a thâl isel i ben.
Byddwn yn creu Sbardun Economaidd Gwyrdd gwerth £6 biliwn a fydd yn creu 60,000 o swyddi yn ystod y tymor pum mlynedd.
Bydd ein gwarant swydd ieuenctid yn sicrhau cyflogaeth i bob plentyn 16-24 oed nad yw mewn addysg amser llawn.
Bydd mabwysiadu polisi Lleol yn Gyntaf newydd, wedi’i lunio ar sail perchnogaeth leol o’r economi, seilwaith a busnesau, a sylfaen sgiliau gynaliadwy ar gyfer gweithlu ac economi wedi’u hadfywio, yn dod â bywyd yn ôl i ganol ein trefi a swyddi i’n cymunedau.
5. Cymru gryfach
Nid dyma’r wlad ddylen ni fod. Nid dyma’r wlad allwn ni fod. Ac nid dyma’r wlad rydyn ni’n dymuno bod.
Dyw San Steffan ddim yn gweithio i Gymru. Pa bynnag blaid Lundeinig sydd mewn grym, fydd Cymru byth yn flaenoriaeth i San Steffan, ac ni fydd ein blaenoriaethau yn cael eu gwarantu gan San Steffan.
Mae Cymru ar groesffordd. Mae’r etholiad hwn yn edrych tua’r dyfodol. Rhaid i’r dyfodol fod yn wahanol i’r gorffennol, ac fe fydd yn wahanol, os dewiswn ni ein dyfodol ein hunain.
Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn golygu Cymru gryfach - yn cael ei hofni a'i pharchu gan San Steffan heb ei hesgeuluso a'i hanwybyddu. Bydd hyn yn golygu bargen well i Gymru - mwy o fuddsoddiad a mwy o bwerau.