Cynhaliodd Plaid Cymru ein Cynhadledd Wanwyn yng Nghaerdydd ddiwedd mis Mawrth. Os fethoch chi'r gynhadledd, dyma bum peth pwysig dylech eu gwybod.

1. Prydau ysgol am ddim - diolch i Blaid Cymru

Bydd pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru yn gymwys i gael pryd ysgol am ddim, maethlon a llenwi o fis Medi ymlaen.

Meddyliwch. Dyna bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru heb ofni mynd yn llwglyd, yn rhydd i ddysgu ac yn rhydd i fod yr oedolyn iach y cawsant eu geni i fod.

Dim ond oherwydd Plaid Cymru y mae hyn yn digwydd.

Rydym wedi galw amdano ers blynyddoedd, er i bleidiau eraill bleidleisio yn ei erbyn yn ein Senedd. Sicrhau prydau ysgol am ddim oedd y prif reswm i ni ymuno â Chytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru.

Ond rydyn ni'n mynd i fynd ymhellach. Bydd pob cyngor sy'n cael ei redeg gan Blaid Cymru yn dechrau paratoi'r ffordd i gynnig prydau ysgol am ddim i ysgolion uwchradd, er mwyn sicrhau bod pryd ysgol am ddim wir yn hawl i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.


2. Mae Plaid Cymru yn gwneud gwahaniaeth mewn grym

Anawsterau economaidd, bygythiadau i wasanaethau iechyd, llifogydd, Covid, costau byw – pan mae argyfwng yn digwydd, mae Plaid Cymru yno ac yn gwneud gwahaniaeth.

Mae cynghorwyr Plaid Cymru yn gweithio'n galed dros eu hetholwyr, ac mae cynghorau sy'n cael eu rhedeg gan Blaid Cymru yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.


3. Mae Cymru yn cydsefyll gydag Wcráin - 100%

Trwy gydol y Cynhadledd roedd llawer o drafod am yr Wcráin.

Roedd yn fraint croesawu Cyndy Litnianska a’i theulu o grŵp Llais Wcráin Cymru i sôn wrth y gynhadledd am yr hyn sydd yn digwydd yn y wlad ar hyn o bryd o ganlyniad i’r goresgyniad dinistriol.

Os hoffech gyfrannu’n ariannol at yr achos, ewch i unai: www.plaid.cymru/voice-ukraine neu: www.plaid.cymru/DEC-appeal


4. Mae gennym gynghorwyr ac ymgeiswyr benywaidd gwych

Mae Plaid Cymru yn blaid sy'n cynrychioli pawb yng Nghymru, o bob oed, o bob hil, a phob rhyw.

Mae hanner y cynghorau sy'n cael eu harwain gan Blaid Cymru yn cael eu harwain gan fenywod gwych – ac mae hyd yn oed mwy o fenywod yn sefyll yn etholiad y Cyngor ym mis Mai.

Os ydych am sefyll dros y Cyngor neu eisiau helpu ethol eich hyrwyddwr cymunedol Plaid Cymru lleol i ewch i: www.plaid.cymru/volunteer 


5. Rydym yn cryfhau ein democratiaeth – gyda Senedd gryfach a mwy amrywiol

Yn y gynhadledd hon ymrwymodd Plaid Cymru i wneud ein Senedd:

• Yn fwy amrywiol
• Yn fwy cynrychioladol
• Yn fwy effeithlon.

Mae angen i'n democratiaeth weithio dros bawb yng Nghymru, ac mae Plaid Cymru yn barod i sicrhau bod hynny'n digwydd.


YMLAEN.