6 rheswm i bleidleisio dros Blaid Cymru ar 6 Mai
Ddim yn siwr dros bwy y dylet bleidleisio yn etholiadau'r Senedd a Comisynwyr Heddlu a Throsedd? Dyma 6 rheswm pam y dylet bleidleisio dros Blaid Cymru ar 6 Mai.
1. O BLAID SWYDDI DA GYDA CYFLOGAU DA
Mae dau argyfwng yn ein gwynebu - newid hinsawdd a diweithdra. Dyna pam byddwn yn creu Ysgogiad Economaidd Gwyrdd gwerth £6bn a fydd ynghyd â'n buddsoddiadau mewn gofal iechyd, addysg, a'r economi leol yn cynhyrchu hyd at 60,000 o swyddi dros y tymor pum mlynedd.
Bydd y rhaglen fuddsoddi hon yn cefnogi adferiad economaidd parhaus Cymru o argyfwng Cofid-19, ac yn cyflogi gweithwyr sydd wedi colli cyflogaeth oherwydd y pandemig Coronafeirws.
Bydd yn golygu buddsoddi mewn prosiectau a fydd yn gosod sylfeini Cymru gadarn newydd, gan gynnwys ehangu a trydaneiddio'r rhwydwaith rheilffyrdd, datblygu system fwyd a ffermio cynaliadwy i Gymru, a buddsoddi mewn datgarboneiddio.
2. O BLAID 50,000 O DAI FFORDDIADWY, CYMDEITHASOL
Dylai pawb gael to uwch eu pennau a chartref i fyw ynddo. Byddwn yn lansio'r rhaglen adeiladu tai cyhoeddus fwyaf am hanner can mlynedd. Byddwn yn creu 50,000 o gartrefi cyhoeddus dros y pum mlynedd nesaf, gan gynnwys 30,000 o dai cymdeithasol, 5,000 o gartrefi gyda rhent teg, a 15,000 o gartrefi gwirioneddol fforddiadwy i'w brynu.
Bydd rhein yn cynnwys rhai o'r 26,000 o gartrefi gwag a fflatiau gwag uwchben siopau ledled Cymru a fydd yn cael eu defnyddio un eto.
3. O BLAID PRYDAU YSGOL AM DDIM
Ni ddylai yr un plentyn fynd i'r ysgol yn llwglyd neu i'r gwely yn oer.
Byddwn yn ymestyn Prydau Ysgol am Ddim i bob plentyn ysgol gynradd erbyn diwedd ein tymor cyntaf, gan ddechrau gyda phob plentyn mewn teulu sy'n derbyn Credyd Cynhwysol - gan sicrhau dechrau da mewn bywyd i bob plentyn.
Bydd y cynllun yma yn pwysleisio datblygiad cadwyni cyflenwi lleol - cefnogi ffermwyr lleol a busnesau lleol, hyrwyddo cynaliadwyedd, a bydd plant yn dysgu o ble mae eu bwyd yn dod ac yn datblygu'r arfer o fwyta bwyd maethlon, wedi'i gynhyrchu'n lleol yn gynnar mewn bywyd.
4. MWY O DDOCTORIAID A NYRYS
Os yw'r pandemig wedi dangos unrhyw beth i ni, mae wedi dangos pwysigrwydd ein gwasanaeth iechyd. Mae angen i ni ofalu amdano fel mae e wedi gofalu amdanom ni.
Bydd gennym gynllun pum mlynedd i recriwtio ac addysgu 4,000 o nyrsys, 1,000 o feddygon, a 1,000 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ychwanegol fel ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol - gan greu'r gwasanaeth iechyd a gofal gorau i staff a cleifion.
5. O BLAID MANNAU GWYRDD
Mae'r pandemig wedi amlygu'n fwy nag erioed bwysigrwydd a gwerth mynediad i fannau gwyrdd.
Byddwn yn darparu mannau gwyrdd diogel o ansawdd da o fewn taith gerdded bum munud i holl gartrefi Cymru gan ddefnyddio'r system gynllunio i sicrhau bod mannau gwyrdd naturiol ar gael yng nghymunedau pobl fel hawl sylfaenol, sy'n anghenraid i'n hiechyd corfforol a meddyliol yn ogystal ag ar gyfer adferiad natur.
6. O BLAID TRETH CYNGOR RHATACH
Byddwn yn diwygio'r dreth gyngor i'w gwneud yn decach ac yn fwy blaengar, gan dorri bil cyfartalog teuluoedd.
Byddwn yn ailystyru y system er mwyn sicrhau bod y dreth gyngor yn fwy cymesur â gwerth cartrefi - bydd treth gyngor wy cyfrannol yn lleihau'r bwlch mewn cyfoeth cartrefi rhwng perchnogion cartrefi gwerth uchel ac isel.
Byddwn yn disgwyl y bydd 20 y cant o gartrefi yn y pumed isaf o ddosbarthiad incwm yn gweld eu biliau treth gyngor yn gostwng mwy na £200.
Un am lwc... O BLAID ANNIBYNIAETH.
Oce, mae 'na un rheswm arall. Dychmygwch ddeffro ar Fai'r 7fed i'r Llywodraeth Cymru cyntaf fyddai o blaid annibyniaeth. Plaid Cymru yw'r unig blaid yn y Senedd sydd wedi ymrwymo i refferendwm annibyniaeth. Nid ydym yn credu fod San Steffan yn gweithio i Gymru, ein bod ni ddim yn cael ein cynrychioli na'n clywed yn iawn, ac y dylai Cymru fod yn genedl annibynnol sy'n llywodraethu ei hun.
O blaid Cymru? Dangosa dy gefnogaeth i Blaid Cymru heddiw ac ar 6 Mai pleidleisia o blaid Cymru, pleidleisa dros Blaid Cymru.