1._Climate_Change_in_Wales.png

1. Mae newid yn yr hinsawdd eisoes yn effeithio ar Gymru

Mae'r argyfwng hinsawdd eisoes yn taro ein cymunedau'n galed. Ledled Cymru, mae cartrefi a busnesau wedi cael eu difetha gan lifogydd erchyll.

Mae tanau gwyllt a sychder, yn ogystal â glaw trwm a llifogydd wedi dod yn gyffredin ledled y byd gan gynnwys yng Nghymru. Gyda 3/4 o'n ffin yn cynnwys arfordir, mae llanw cynyddol yn fygythiad enfawr i lawer o gymunedau ein gwlad.

Rydym yn genedl sydd yn gyfarwydd â'r glaw, ac mae hyn wedi ein helpu i ddod yn gynhyrchydd bwyd mawr, ond gallwn ni fyth ag ymdopi â'r tywydd eithafol rydym eisoes yn ei gweld, ac sy'n siŵr o waethygu. Gallwn ddisgwyl llifogydd gwaeth byth a mwy o gyfnodau sych yn yr haf.

 

2._The_Science_in_Undeniable.png

2. Ni ellir gwadu'r wyddoniaeth

Mae'r tymheredd yn codi yn union fel y moroedd wrth ein traed.

Mae'r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf yn cadarnhau ein bod yn debygol o gyrraedd 1.5°C uwchben lefelau cyn-ddiwydiannol erbyn mor gynnar â 2030 os nad ydym yn cymryd camau brys. Mae COP26 yn foment bendant i gynyddu uchelgais a chadw 1.5°C o fewn cyrraedd.

 

3._Excaserbating_inequalities.png

3. Mae'r argyfwng hinsawdd yn gwaethygu anghydraddoldebau – gan gynnwys yng Nghymru.

Yng Nghymru, fel dros y byd, mae'n gymunedau tlotach sydd ar red flaen yr argyfwng hinsawdd.

Yn 2019, cyhoeddodd adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig y bydd pobl dlotaf y DU yn dioddef o ganlyniadau mwyaf trychinebus newid yn yr hinsawdd. Dywedodd yr adroddiad y bydd y bobl dlotaf yn dioddef fwyaf mwy na neb o'r newid hinsawdd, gan eu bod "y lleiaf abl i adleoli, yn methu â fforddio amddiffyn eu hunain ac yn methu talu rhagor am fwyd na tai".

Mae'r llifogydd cynyddol, arfordiroedd yn encilio a'r llanw chwyddo, yn ogystal â thanau coedwig yn ystod tywydd sych i gyd yn gwneud Cymru'n agored iawn i niwed.

Mae diffyg gweithredu'r Llywodraeth yn golygu bod y rhai sydd â'r lleiaf bob amser yn cael eu taro'n gyntaf, a'r anoddaf. Oni bai ein bod yn cymryd camau llym, bydd yr argyfwng hinsawdd yn gwaethygu anghydraddoldebau o fewn ac ar draws gwledydd y byd, a rhwng cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Dyna pam y mae'n rhaid i gyfiawnder yn yr hinsawdd olygu trwsio ac atal y difrod i gymunedau sy'n agored i niwed.

 

Pivotal_moment_in_history.png

4. Mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd = swyddi gwyrdd

Mae cyfiawnder yn yr hinsawdd hefyd yn golygu sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl gan y cyfnod pontio. Ni fydd hanes yn maddau i'n cenhedlaeth os gwelwn ailadrodd y polisi tir llosg a achoswyd gan Thatcher ar gymunedau diwydiannol Cymru yn y 1980au. Rhaid mynd ati yn awr i ailsgilio gweithwyr mewn diwydiannau carbon uchel ar gyfer ddiwydiannau'r dyfodol, a hynny ar raddfa enfawr.

Er mwyn gwireddu ein huchelgeisiau gwyrdd, ac i sicrhau adferiad economaidd gwyrdd, mae angen inni fuddsoddi yn y gweithlu gwyrdd i gyflawni ar gyfer yr hinsawdd a'r byd natur. Mae angen inni uwchsgilio ein gweithlu ynni, ein gweithlu tai, ein gweithlu trafnidiaeth, a thu hwnt, i ddarparu swyddi gwyrdd ar gyfer canlyniadau gwyrdd.

5._Radical_thinking.png

5. Mae'r argyfwng hinsawdd yn dangos pa mor bwysig ydyw bod Cymru'n rheoli ei hadnoddau naturiol ei hun

Mae datganoli wedi helpu Cymru i wneud penderfyniadau amgylcheddol gynaliadwy yn y gorffennol, megis cyflwyno'r tâl i annog pobl rhag ddefnyddio bagiau siopa untro. Ond pe bai gennym fwy o bwerau wedi'u datganoli, gallem wneud rhagor eto. Ar hyn o bryd, nid oes gan Lywodraeth Cymru y lefrau economaidd i fynd i'r afael â'r argyfwng gyda'r brys sydd ei angen.

Mae Cymru'n wlad o adnoddau naturiol ac adnewyddadwy sydd eto heb eu defnyddio. Os ydym am wneud y mwyaf o'n potensial adnewyddadwy i greu dyfodol gwyrddach, rhaid inni wneud hynny ar ein dwy droed ein hunain gyda'n dwylo ein hunain.

Pe bai'r pwerau ynni llawn a'r pwerau dros ystâd y goron wedi'u datganoli'n llawn i Lywodraeth Cymru, gallem fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy a glân. Mae grymuso ein llywodraeth gyda phwerau benthyca hefyd yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall Cymru chwarae rhan flaenllaw yn y broses bontio gwyrdd.

Dylai Llywodraeth Cymru lywodraethu adnoddau Cymru, ar gyfer pobl Cymru. Mae mor syml â hynny.

 

6._Decision_making.png

6. Nodwch, Lywodraeth Cymru: Rhaid i fynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd fod wrth wraidd pob penderfyniad.

Er mwyn bod o ddifrif ynghylch newid yn yr hinsawdd, rhaid inni hefyd fynd i'r afael ag ef ar draws sawl maes, gan ei ymgorffori wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau ym mhob un o adrannau'r llywodraeth. Rhaid i lywodraethau allu profi i ddinasyddion fod eu polisïau - o drafnidiaeth ac ynni i iechyd ac addysg, wedi'u cynllunio drwy lens hinsawdd, ac yn cyflawni eu cyfrifoldebau i genedlaethau'r dyfodol.

Mae mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yn gofyn am fuddsoddiad cynyddol mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd, lleihau llygredd aer, gosod pympiau gwres ac insiwleiddio'r cartrefi llaith ac oer sy'n gwneud biliau gwresogi Cymru ymhlith y rhai drutaf yn Ewrop. Pethau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud – nawr.

 

Now_or_never.png

7. Nawr, amdani.

Os yw COP26 i arwain at weithredu go iawn, rhaid grymuso pob llywodraeth i fynd i'r afael â'r argyfwng. Rhaid iddynt wneud hyn yn awr.

 

Rhannwch hyn os ydych yn cytuno

👇👇👇