Er gwaethaf y cyfyngiadau Plaid Cymru yn dweud eu bod yn “arloesi” ac yn barod i groesawu aelodau a chefnogwyr ar-lein ar gyfer rhaglen gynhadledd lawn cyn Etholiadau Senedd 2021

Bydd Cynhadledd Flynyddol 2020 Plaid Cymru yn cael ei chynnal yn ddigidol eleni oherwydd argyfwng Covid, mae’r blaid wedi cadarnhau.

Bydd dyddiadau gwreiddiol y gynhadledd, 2il a 3ydd o Hydref, yn cael eu cadw, gyda gweithgareddau trwy gydol yr wythnos cyn y gynhadledd ddigidol ei hun.

Nododd y Blaid y byddai'r gynhadledd yn "llawn areithiau, trafodaethau, sesiynau ymylol, a digwyddiadau cymdeithasol" gyda rhaglen lawn yn cael ei chyhoeddi'n fuan.

Meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru,

"Rydyn ni'n falch iawn o gyhoeddi y byddwn ni'n cynnal ein Cynhadledd Flynyddol yn ddigidol eleni. Er ein bod ni i gyd yn siomedig na fyddwn ni'n gallu cwrdd wyneb yn wyneb, rydyn ni wrth ein bodd o gadarnhau, beth bynnag yw'r sefyllfa gyda Cofid-19, byddwn yn gallu dod at ein gilydd ar-lein.

"Dyma ddangos ein bod ni fel Plaid yn arloesi, yn gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol, ac yn addasu i'r heriau sy'n parhau i'n wynebu ni yn sgil Cofid-19. 

"Gall aelodau, cefnogwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb yn yr hyn sydd gan y blaid i'w gynnig edrych ymlaen at gynhadledd gyffrous  llawn areithiau, trafodaethau, sesiynau ymylol, ac wrth gwrs digwyddiadau cymdeithasol. Gyda llai na blwyddyn i fynd tan etholiadau'r Senedd, bydd ein cynhadledd eleni y gorau eto gan ddangos bod Plaid Cymru, o dan arweinyddiaeth Adam Price, yn barod i Lywodraethu ac yn barod i roi ar waith y newid sydd angen i ni ei weld yng Nghymru.

Mae cofrestru ar gyfer cynhadledd flynyddol y blaid bellach ar agor.