Liz Saville Roberts AS Plaid Cymru yn pwyso ar Lywodraeth y DU

 

Mae gan Lywodraeth y DU “gyfrifoldeb ymarferol a moesol” i sicrhau bod dinasyddion a phersonél Prydain yn ogystal â gwladolion o Afghanistan sy’n gysylltiedig â chenhadaeth Prydain / NATO yn Afghanistan yn gall gadael y wlad yn gyflym ac yn ddiogel, meddai AS Plaid Cymru, Liz Saville Roberts.

Dywedodd Ms Saville Roberts hefyd y dylid prosesu fisas a dogfennaeth arall yn ddiweddarach “os oes angen” unwaith eu bod yn ddiogel.

Dywedodd Ms Saville Roberts fod yn rhaid i wacáu cyflym a diogel fod yn flaenoriaeth “yn anad dim arall”.

Roedd hi’n siarad ar ôl i ysgrifennydd amddiffyn y DU, Ben Wallace, ddweud bod llywodraeth y DU yn hyderus y gall gwladolion o Brydain adael Afghanistan, ond dywedodd y byddai rhai sy’n gymwys i adael yn cael eu gadael ar ôl.

Dywedodd Arweinydd Seneddol Plaid Cymru San Steffan, Liz Saville Roberts AS,

“Mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb ymarferol a moesol i sicrhau bod dinasyddion a phersonél Prydain yn gallu gadael y wlad yn gyflym ac yn ddiogel yn ogystal â gwladolion o Afghanistan sy’n gysylltiedig â chenhadaeth Prydain / NATO yn Afghanistan.

“Rhaid gwneud hyn cyn gynted â phosibl ac, os oes angen, caniatáu prosesu fisas a dogfennaeth arall yn ddiweddarach unwaith y byddant yn ddiogel.

“Rhaid i wacáu cyflym a diogel fod yn flaenoriaeth yn anad dim arall.