Datganiad y Canghellor: Mae pandemig byd-eang yn galw am adferiad lleol
Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS, wedi galw am ‘adferiad lleol i’r pandemig byd-eang’, cyn datganiad economaidd Canghellor y DG yn Nhŷ’r Cyffredin (8 Gorffennaf).
Mewn erthygl i bapur newydd y Western Mail, ysgrifenna Mr Lake “tra bod San Steffan yn credu eu bod wedi ennill eu rhyfel gyda Covid, mewn gwirionedd yr ydym yn dal ar faes y gad” pan ddaw’n fater o’r economi.
Galwodd AS y Blaid am gyflwyno cynlluniau caffael lleol, yn dilyn arweiniad awdurdodau lleol megis Sir Gâr a Cheredigion, yn ogystal ag am fwy o arian ymchwil a datblygu i ddod i Gymru.
Yn yr erthygl, ysgrifenna Ben Lake AS:
“Yn y pen draw, mae bai [y gwendid yn economi Cymru] yn strwythur hynod ganoledig y DG yng nghoridorau Whitehall. Ers yn rhy hir o amser, gwelsom agwedd un-maint-i-bawb at ddatblygu economaidd sydd wedi gwthio cymunedau cyfan i’r ymylon ac wedi troi model economaidd craidd-cyrion yn sefydliad.
“Yn lle hynny, mae Plaid Cymru eisiau manteisio i’r eithaf ar gryfderau cymharol Cymru. Byddwn yn adeiladu ar record ac uchelgais awdurdodau lleol Cymru megis Sir Gar a Cheredigion sydd wedi rhoi blaenoriaeth i strategaethau caffael lleol yn ogystal â dulliau perchenogaeth lleol, sy’n amrywio o gynhyrchu ynni adnewyddol i adeiladau cymunedol.
“Gyda’m cydweithiwr Llyr Gruffydd, Aelod Senedd, yr wyf wedi hyrwyddo ymgyrch ‘Prynu’n Lleol’ i’n sector bwyd a diod campus, ond mae’n rhaid i ni fod yn fwy uchelgeisiol fyth i’n heconomi. Gallai hyn gynnwys defnyddio arfau megis rheidrwydd i ddefnyddio cynnyrch lleol mewn tendrau cyhoeddus, ymrwymo i gynlluniau perchenogaeth lleol, a sicrhau ymyriadau gwyrdd fel insiwleiddio ein cartrefi gan ddwyn i mewn gyflogwyr lleol.
“Mae angen i bunt gyhoeddus Cymru hefyd fynd ymhellach nag economi heddiw trwy gefnogi arloesedd a fydd yn cynnal ein trawsnewid gwyrdd. Gyda bron i hanner gwariant ymchwil a datblygu yn canoli ar Lundain, Rhydychen a Chaergrawnt, buasem yn cefnogi creu cronfeydd egin-arloesedd i gysylltu ein prifysgolion rhyfeddol gyda busnesau Cymreig fel y gallant gyda’i gilydd ddatblygu atebion i heriau yfory.
“Bydd adferiad sydd yn ail-adeiladu’n well mewn partneriaeth â busnesau a chymunedau Cymru hefyd yn ein gwneud yn bartneriaid mwy medrus yn rhyngwladol. Gydag economi domestig cryfach a mwy gwydn wedi ei adeiladu o gwmpas cadwyni cyflenwi a pherchenogaeth lleol, byddwn yn bartner masnachu mwy cydlynus, medrus a phwrpasol ar lwyfan y byd.
“Yn y pen draw, rhaid i’r adferiad hwn ddysgu o wersi’r gorffennol ac ail-adeiladu o’r gwaelod i fyny i fanteisio ar y cyfoeth o arbenigedd, doniau ac adnoddau sydd gennym yng Nghymru, ond nad ydynt yn cael eu defnyddio’n llawn. Trwy adeiladu adferiad lleol, gallwn helpu i gael enillion o ran cynhyrchedd a bod yn feithrinfa i arloesedd, ac ar yr un pryd ddysgu o wersi’r gorffennol - a gwirioneddau gwleidyddol y presennol - er mwyn sicrhau y bydd ein hadferiad yn rhoi bod i waddol parhaol, cadarnhaol i’n cymunedau.”