Plaid Cymru yn galw i ddiddymu rôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru
“Rydyn ni'n ei ddisgwyl gan y Torïaid wrth gwrs, ond mae'n ymddangos bod Llafur hefyd wedi troi eu cefn ar ddatganoli ac ewyllys y Senedd” meddai Plaid Cymru
Mae Plaid Cymru heddiw (dydd Mercher 26 Mehefin 2024) yn gosod cynnig gerbron y Senedd yn galw i ddiddymu rôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan nodi dylid trosglwyddo ei swyddogaethau i Lywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi ymosod ar ddatganoli ers tro, gan ddefnyddio swyddfa'r Ysgrifennydd Gwladol i gwestiynu ewyllys y Senedd. Yn ôl Plaid Cymru, bydd hyn yn parhau o dan Lywodraeth Lafur y DU, gan ddweud bod y rôl wedi dyddio.
Yr wythnos diwethaf, mewn cyfweliad ar raglen S4C Y Byd yn ei Le, fe wnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru, Jo Stevens, wfftio ewyllys y Senedd a dangos agwedd ddirmygus tuag at ddatganoli. Yn ystod y cyfweliad, gwadodd Stevens fodolaeth HS2 ac felly'r £4bn sy'n ddyledus i Gymru, a gwawdiodd ddatganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru fel "ffidlo o gwmpas gyda strwythurau a systemau".
Mae'r Senedd wedi cyrraedd consensws trawsbleidiol ers tro y dylid rhoi biliynau yn ôl i Gymru o brosiect HS2 Lloegr - wedi'i labelu yn brosiect 'Cymru a Lloegr’ er nad oes modfedd o drac yng Nghymru.
Mae datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru hefyd yn cael ei gefnogi gan Blaid Cymru a Llafur yng Nghymru, yn dilyn sawl comisiwn annibynnol neu drawsbleidiol gan gynnwys Comisiwn Thomas (2019), Comisiwn Silk (2014) ac yn fwyaf diweddar Gomisiwn Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru (2024).
Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts:
“Wrth ddathlu 25 mlynedd o ddatganoli, mae agwedd ddirmygus a nawddoglyd pleidiau San Steffan tuag at y Senedd yn glir.
“Rydyn ni'n ei ddisgwyl gan y Torïaid wrth gwrs, ond mae'n ymddangos bod Llafur hefyd wedi troi eu cefn ar ddatganoli ac ewyllys y Senedd.
"O wrthod biliynau sy'n ddyledus i Gymru o brosiect HS2 Lloegr, i wrthod pwerau datganoledig dros blismona a chyfiawnder er bod sawl adroddiad a gomisiynwyd gan Lafur wedi dweud y byddai'n gwella canlyniadau yn sylweddol. Rhoddodd Jo Stevens - Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru - ragolwg i ni o sut y byddai Cymru'n cael ei thrin gan Lywodraeth Lafur y DU.
“Mae swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru i fod i hyrwyddo buddiannau Cymru o fewn Llywodraeth y DU. Yn hytrach, mae'n cael ei ddefnyddio'n gynyddol fel llwyfan i gael llais democrataidd nodedig y Senedd - waeth pa blaid sy'n dal y swydd.
"Does dim angen cwestiynu democratiaeth Cymru. Mae'n hen bryd diddymu'r rôl hen ffasiwn hon sydd ddim yn gwasanaethu buddiannau pobl Cymru yn effeithiol, a throsglwyddo’i swyddogaethau i Lywodraeth Cymru."
Ychwanegodd Rheolwr Business Grwp Plaid Cymru yn y Senedd, Heledd Fychan:
"Roedd mis diwethaf yn nodi 25 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru. Ac eto, mae'r modd y mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'i rolau gwrthblaid gysgodol yn delio â Senedd ddatganoledig Cymru yn dangos yr anghydbwysedd grym sydd wedi ymwreiddio ac yn diffinio'r berthynas rhwng San Steffan a Chymru.
"Mae adran 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru yn crynhoi hyn yn glir - gan alluogi Ysgrifennydd Gwladol Cymru i atal unrhyw ddeddfwriaeth yn y Senedd. Mae'n swyddogaeth cipio pŵer sydd wedi'i chynllunio i anfon neges glir i Gymru y bydd eraill bob amser yn gallu rheoli ein tynged.
"Fe wnaeth cyfweliad Jo Stevens o Lafur yr wythnos ddiwethaf atgyfnerthu hynny, gan gyfeirio at ddatganoli fel cytundeb nid mynnu.
"Waeth pwy sy'n cael yr allweddi i 10 Downing Steet, mae dirmyg a hunanfodlonrwydd San Steffan tuag at Gymru yn gyson.
"Mae'n dod yn gliriach pob dydd mai'r unig bleidlais i sicrhau bydd llais Cymru’n cael ei chlywed a'i pharchu ar 4 Gorffennaf yw pleidlais i Blaid Cymru."