Adam Price
Ganwyd Adam Price yng Nghaerfyrddin i deulu löwr a chafodd ei addysgu yn Ysgol Dyffryn Aman a Phrifysgol Caerdydd lle graddiodd gyda BSc yn Economeg. Aeth Adam ymlaen i ddod yn Rheolwr Gyfarwyddwr o Newidiem, ymgynghoriaeth polisi ac economeg y DU a Chyfarwyddwr Gweithredol o’r asiantaeth datblygu economaidd a newid diwylliannol Cymreig, Menter a Busnes.
Roedd yn AS rhwng 2001 a 2010 a chafodd gydnabyddiaeth eang am ei waith ymgyrchu a’i ymdrech i uchelgyhuddo Tony Blair am ei rôl yn rhyfel Irac.
Yn dilyn ei amser yn San Steffan gwobrwywyd ef ag Ysgoloriaeth Fulbright i astudio ym Mhrifysgol Harvard lle astudiodd Meistr mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Fe ddaeth yn Gymrawd yn y Ganolfan ar gyfer Datblygu Rhyngwladol yn y John F. Kennedy School of Government ym Mhrifysgol Harvard.
Cafodd ei benderfyniad i ddychwelyd i wleidyddiaeth reng-flaen ei groesawu gyda brwdfrydedd enfawr.
Gwyliwch y fideo isod i ddysgu mwy am Adam