“Ni ddylai maint ein cenedl bennu cwmpas ein huchelgais gwyrdd na chyfyngu ar yr hyn y gallem ei gyflawni” – Adam Price AS

Mae Adam Price AS, Arweinydd Plaid Cymru, wedi galw ar Gymru i arwain y ffordd ar y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Gwnaeth Mr Price y galwadau ar ôl ei feirniadaeth o’r cytundeb COP26 drafft, a ddangosodd gagendor “syfrdanol” rhwng rhethreg a realiti arweinwyr y byd.  

Dywedodd Mr Price, sy’n mynychu COP26 heddiw (dydd Iau 11 Tachwedd) mai'r brif wers y bydd yn ei chymryd o’r uwchgynhadledd yw sut y gellir grymuso cenhedloedd bach fel Cymru i frwydro dros weithredu yn yr hinsawdd.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS,

Rhwng eithafion llifogydd yn y gaeaf a sychder yn yr haf, mae Cymru eisoes yn teimlo effeithiau newid yn yr hinsawdd. Er ein bod yn aros i arweinwyr y byd nodi cynllun gwirioneddol i gadw o fewn cynnydd o 1.5 gradd mewn cynhesu byd-eang, y brif wers y gallwn ei chymryd o COP26 yw y gellir grymuso cenhedloedd bach fel Cymru i frwydro dros weithredu yn yr hinsawdd.

“Mae ein cenedl yn gyfoethog o ran ffynonellau ynni adnewyddadwy. Er ein bod yn dal i deimlo creithiau polisi Thatcher ar gymunedau diwydiannol yn y 1980au, gallem arwain y ffordd ar y newid gwyrdd. Gallai ein chwyldro ynni glân greu swyddi sgiliau uchel a chodi safonau byw pobl ym mhob cwr o Gymru.

“Mae ein huchelgeisiau’n llawer mwy na rhai Llywodraeth San Steffan, ac ni ddylem adael i’n maint bennu terfynau’r hyn y gallem ei gyflawni. Dyna pam y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gael yr ysgogiadau a’r pwerau economaidd dros Ystâd y Goron i sicrhau mai pobl Cymru sy'n elwa o’r cyfle hanesyddol hwn i greu dyfodol gwyrddach.