Datganiad gan arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ar drais ym Mhalestina ac Israel

Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS, wedi rhyddhau datganiad yn dilyn y trais diweddaraf ym Mhalestina ac Israel.

"Mae gan Blaid Cymru draddodiad maith a balch o gynnal hawliau pobl a chenhedloedd gorthrymedig ledled y byd a buom yn gyson a di-ildio ein cefnogaeth i hawliau dynol a sifil y Palesteiniaid.

"Fel y dangosodd y protestiadau gan filoedd o bobl dros y penwythnos, mae pobl yng Nghymru wedi arswydo o weld y trais yn cynyddu a chymaint o bobl ddiniwed yn y rhanbarth yn marw.

"Mae Plaid Cymru yn pryderu’n ddwys am weithredoedd llywodraeth Israel dros y dyddiau diwethaf. Anogwn y gymuned ryngwladol i ddod ynghyd i fynnu cadoediad ac i drafod terfyn i feddiannu’r Lan Orllewinol a’r blocâd ar Gaza. Rhaid rhoi terfyn yn syth ar y troi allan anghyfreithlon yn Sheikh Jarrah. 

"Rydym yn condemnio pob trais a mynegwn ein cydymdeimlad dwysaf a theuluoedd y cannoedd a laddwyd neu a anafwyd gan luoedd Israel a Hamas.

"Galwn ar y Prif Weinidog i anfon y sylwadau cryfaf bosib at Brif Weinidog y DG i fynnu camau i roi terfyn ar y trais a sicrhau heddwch parhaol".