Arweinydd Dros Dro Plaid Cymru Llyr Gruffydd yn ysgrifennu at Arweinydd Llafur Keir Starmer ar drothwy gorymdaith annibyniaeth i Gymru

Mae Arweinydd Dros Dro Plaid Cymru Llyr Gruffydd wedi estyn allan at Arweinydd Llafur Prydain Keir Starmer i alw arno i addo ei gefnogaeth dros “mwy o bwerau” i Gymru.

Mewn llythyr at yr Arweinydd Llafur – a anfonwyd ar drothwy’r orymdaith dros annibyniaeth i Gymru yn Abertawe, dywedodd Mr Gruffydd fod y blaid Lafur “yn hanesyddol wedi methu” i adlewyrchu yn eu safbwyntiau yr awydd cynyddol dros “rhagor o bwerau” i Gymru.

Galwodd Arweinydd Dros Dro Plaid Cymru ar Starmer i “ymuno â Phlaid Cymru” a chefnogi mwy o bwerau dros yr “economi, darlledu, ynni, lles, cyfiawnder, a thrafnidiaeth” i’r Senedd er mwyn sicrhau bod gan Gymru’r arfau i “gryfhau ei heconomi a amddiffyn ei wasanaethau cyhoeddus”.

Dywedodd Llyr Gruffydd AS, Arweinydd Dros Dro Plaid Cymru:

“Wrth i’r ddadl ynghylch dyfodol cyfansoddiadol Cymru ddatblygu, bydd miloedd o bobl yn cyfarfod yn Abertawe i ddangos eu cefnogaeth i hunanbenderfyniad, llawer ohonynt yn aelodau o’ch plaid.

“Er bod mwy o bwerau yn ewyllys sefydlog etholwyr Cymru, ac annibyniaeth wedi symud o’r ymylon i’r brif ffrwd, mae’n destun rhwystredigaeth ddofn fod Plaid Lafur Prydain yn hanesyddol wedi methu â chadw i fyny â’r awydd cynyddol hwn i’r Senedd â phwerau dros feysydd allweddol.

“Mae’r dymuniadau yn cael eu clywed gan rai o’ch cydweithwyr Llafur yng Nghymru sydd wedi siarad yn ddiweddar o blaid symiau canlyniadol HS2 Barnett, datganoli cyfiawnder, a datganoli Ystad y Goron.

“Dros y misoedd nesaf, bydd pob plaid yn datblygu eu rhaglen lywodraethu cyn Etholiad San Steffan y flwyddyn nesaf.

“Fy ymbil i chi yw: cofiwch am Gymru.

“Trwy ymuno â Phlaid Cymru i addo rhoi mwy o bwerau i Senedd Cymru dros yr economi, darlledu, ynni, lles, cyfiawnder, a thrafnidiaeth, byddech yn sicrhau bod gan ein cenedl yr arfau sydd eu hangen arni i gryfhau ei heconomi ac amddiffyn ei gwasanaethau cyhoeddus.

“Rwy’n credu’n gryf bod dweud dim byd nawr a diffyg gweithredu yn ddiweddarach yn agor y drws i’r rhai sydd am wreiddio statws ymylol Cymru o fewn system San Steffan.”