Mae Plaid Cymru wedi atgyfnerthu ei galwadau ar i Lywodraeth Cymru sicrhau “Cynllun B” ar gyfer darpariaeth gofal iechyd ar draws ogledd Cymru

Mae Plaid Cymru wedi atgyfnerthu ei galwadau ar i Lywodraeth Cymru sicrhau “Cynllun B” ar gyfer darpariaeth gofal iechyd ar draws ogledd Cymru ar ôl i Archwilio Cymru ganfod “gwallau pryderus” wrth i gyfrifon 2021-22 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael eu cyhoeddi. 

Mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi mynegi pryderon “nad yw meysydd gwariant sylweddol efallai’n gywir” yng nghyfrifon diweddaraf y Bwrdd Iechyd, a nododd fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi methu eto â chyflawni ei ddyletswydd ariannol i fantoli’r gyllideb dros gyfnod o dair blynedd.

Roedd y cyfrifon, a gyhoeddwyd ar 26 Awst 2022, hefyd yn dangos tystiolaeth annigonol i allu dangos bodolaeth £72 miliwn o dreuliau a dynnwyd ond ni chafodd eu talu yn y flwyddyn ariannol, nac ychwaith digon o dystiolaeth i gadarnhau bod gwariant o £122 miliwn wedi digwydd yn y flwyddyn neu wedi cael ei gyfrif yn iawn yn y cyfnod cyfrifo cywir. 

Wrth wneud sylw, dywedodd Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru: 

“Ynghyd â chyrff eraill y GIG mae’n wynebu cost sylweddol a phwysau galw gan gynnwys ôl-groniad sylweddol o ofal wedi’i gynllunio. Fodd bynnag, mae hefyd yn cael cyllid sylweddol y byddai’r cyhoedd yn disgwyl iddo reoli a chyfrif amdano’n gywir. Mae’r gwallau y mae’r archwiliad wedi’u nodi yn bryderus ac rwyf wedi gwneud argymhellion i’r bwrdd i wella, a bydd fy nhîm yn dilyn y sefyllfa’r flwyddyn nesaf.” 

Y pryderon hyn ynghylch cyfrifon y Bwrdd Iechyd yw’r diweddaraf mewn llinell hir o gwestiynau a methiannau ynglŷn â pherfformiad Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr - sydd wedi cael eu hamlygu’n gyson mewn sawl adroddiad gan Arolygiaeth Iechyd Cymru, a chyfnod o bum mlynedd a dreuliwyd yn flaenorol o dan fesurau arbennig - a gafodd ei godi gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2020. 

Yn gynharach y mis hwn, ysgrifennodd Cadeirydd a Phrif Swyddog Cyngor Iechyd Cymunedol Gogledd Cymru at Lywodraeth Cymru yn galw am “weithredu brys… i sicrhau’r gofal iechyd diogel y mae pobol gogledd Cymru yn ei ddisgwyl ac yn ei haeddu”. 

Mae pryderon wedi’u codi’n rheolaidd gan wleidyddion Plaid Cymru yn y Senedd ynghylch perfformiad y Bwrdd Iechyd - yn fwyaf diweddar o ran pryderon ynghylch gwasanaethau gofal fasgwlaidd, a fu gynt yn destun adroddiad beirniadol gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon. 

Wrth ymateb i adroddiad diweddar Archwilio Cymru ar gyfrifon y Bwrdd Iechyd, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol: 

“Mae adroddiad yr Archwilydd unwaith eto’n amlygu’r hyn sydd wedi dod yn fwyfwy amlwg - sef fod y Bwrdd Iechyd wedi dod yn anhydrin fel sefydliad.  

Yn yr achos yma mae’n fethiannau o ran adrodd ariannol, ond wythnos ar ôl wythnos rydym yn clywed sut mae problemau Betsi yn effeithio’n uniongyrchol ar gleifion. Er mwyn cleifion a staff, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru chwilio am Gynllun B - gan sicrhau strwythur newydd ar gyfer darparu gofal iechyd yng ngogledd Cymru.”