Amser “i Lywodraeth Cymru ddeffro” a dangos eu bod “wir wedi ymrwymo” i achub y gwasanaeth iechyd yng Nghymru – Rhun ap Iorwerth AS

Mae Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal wedi galw ar Lywodraeth Cymru i “ddeffro” ac i “gymryd y camau radical” sydd ei angen i “fynd i'r afael â materion hir sefydlog” y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mae amseroedd aros diweddaraf y GIG wedi cael eu cyhoeddi, sy’n dangos mwy o bwysau ar wasanaethau brys, amseroedd aros uchaf am driniaeth canser ar gofnod, a methu â chyrraedd rhai targedau allweddol o ran apwyntiadau cleifion.

Dywed Mr ap Iorwerth bod y dirywiad hwn wedi digwydd dan wyliadwriaeth Llafur Cymru a bod gan Lywodraeth Cymru y pŵer i fynd i’r afael â’r materion.

Mae’r ffigyrau diweddaraf wedi’u cyhoeddi yr un ddiwrnod a cyhoeddiad bod meddygon yng Nghymru yn ystyried streicio am y tro cyntaf yn eu hanes, ac o fewn wythnos i streic hanesyddol gan nyrsys a gweithwyr ambiwlans.

Yn gynharach yn yr wythnos, ysgrifennodd Mr ap Iorwerth at y Gweinidog Iechyd i ofyn: “mae staff a chleifion angen gwybod pam y dylai fod ganddynt unrhyw hyder yn yr hyn mae’r Llywodraeth yn ei wneud i adfer pethau.”

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal, Rhun ap Iorwerth AS,

Mae ein gwasanaeth iechyd yn gwegian, ac mae’n rhaid i rywbeth roi. Mae problemau hir sefydlog wedi bod gyda llif cleifion drwy ysbytai, a gyda mwy o bwysau ar ein gwasanaeth brys, a mwy a mwy o gleifion yn cael eu hychwanegu at restrau aros, mae ein staff sy’n gweithio mor galed wedi rhoi eu holl.

Mae’r streiciau gan nyrsys a gweithwyr ambiwlans yn ddewis olaf gan staff ymroddedig sydd â diogelwch cleifion wrth wraidd eu gweithredoedd. Ond rhaid i rhywbeth roi, ac fe ddylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud popeth yn ei allu i sicrhau nad y gweithlu yw hynny.

Mae’n rhaid i’r newyddion diweddaraf, sef y gall meddygon ymuno â nyrsys a gweithwyr ambiwlans ar y llinell biced, fod yn agoriad llygaid i Lywodraeth Cymru. Rhaid iddynt fod yn barod i gymryd camau radical os ydynt wedi ymrwymo’n wirioneddol i wynebu’r problemau hir sefydlog o fewn ein GIG. Allwn ni ddim anghofio bod y dirywiad yma yn ein gwasanaeth iechyd wedi digwydd ar eu gwyliadwriaeth nhw.

Mae angen i staff a chleifion gael gwybod pam y dylent gael unrhyw hyder yng ngallu Llywodraeth Cymru i wella amseroedd aros, cefnogi’n gweithlu, a rhoi’r sefydlogrwydd a’r cynaliadwyedd y mae ein gwasanaeth iechyd a gofal mor daer ei angen.”