Annibyniaeth yw’r “unig ddatrysiad” i atal San Steffan rhag cipio grym unwaith ac am byth meddai Arweinydd Plaid Adam Price yn dweud
Rhaid i Llywodraeth Llafur wneud mwy nag mynegi “geiriau gwag” am ddatganoli
Annibyniaeth yw’r “unig ffordd” i wrthsefyll San Steffan a sicrhau fod democratiaeth Cymru yn cael ei amddiffyn, meddai Arweinydd Plaid Cymru Adam Price.
Mae arweinydd Plaid wedi dweud fod Bil Marchnad Fewnol Llywodraeth San Steffan yn “cipio grym ac yn dinistrio ddau ddegawd o ddatganoli”
Byddai’r Bil Marchnad Fewnol, wedi’i gyhoeddi heddiw, yn sicrhau fod amryw o feysydd polisi sydd eisoes wedi’u ddatganoli i Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu gweinyddu gan San Steffan ac yn gwanhau grym y Senedd i ddeddfu. Yn ogystal â hyn, bydd rheolau gwario newydd yn y bil yn galluogi Llywodraeth y DU i orfodi prosiectau mewn ardaloedd wedi’u ddatganoli megis datblygiad economaidd, isadeiledd, diwydiant, chwaraeon ag addysg heb gydsyniad Llywodraeth Cymru – gweithred sy’n uniongyrchol yn tanseilio datganoli.
Heriodd Mr Price y Llywodraeth Llafur yng Nghymru i wnneud fwy nag cynnig “geiriau gwag am ddatganoli”, gan ddweud eu bod nhw wedi gwneud dim wrth i “datgymalu ddatganoliad droi mewn i ddymchwel datganoli” wrth law San Steffan.
Dwedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS:
“Mae Bil y Farchnad Fewnol yn cipio grym ac yn dinistrio dau ddegawd o ddatganoli. Bydd dau refferendwm yn cael ei hanwybyddu a bydd ewyllys pobl Cymru yn cael ei wrthdroi os gweld pasio’r ddeddf hon.
“Annibyniaeth yw’r unig ffordd allwn ni amddiffyn democratiaeth Cymru. Heb Lywodraeth o blaid annibyniaeth yng Nghaerdydd, bydd San Steffan yn parhau i fwlio Cymru.
“Dyw Llafur heb weithredu i amddiffyn ein Senedd, a nawr yr unig beth maen nhw’n ei gynnig yw geiriau gwag am ddatganoli. Mae nhw wedi aros a gwylio wrth i ddatganoli gael ei ddatgymalu darn wrth ddarn gan San Steffan.
“Rydym ni angen mwy na geiriau. Rydym ni angen llywodraeth o blaid annibyniaeth yng Nghymru a fydd yn ein galluogi ni i wrthsefyll ymosodiadau San Steffan ar ein democratiaeth.”