“Mae’n ymddangos bod gwell gan Lywodraeth Lafur Cymru tawelu’r dyfroedd yn y blaid Lafur na sicrhau’r gorau i Gymru” – Cefin Campbell AS

Heddiw (dydd Mercher 9 Hydref 2024) bydd Plaid Cymru yn galw ar Lafur i anrhydeddu eu hymrwymiadau i gynyddu cyllid i addysg, ac i fynd i'r afael â'r heriau ehangach sy'n wynebu'r sector.

Addawodd Llafur cyllid ychwanegol ar gyfer addysg yn eu maniffesto Etholiad Cyffredinol 2024 - addewid maen nhw wedi methu â'i gyflawni, meddai Plaid Cymru.

Mae adroddiad gan NAHT wedi canfod bod ysgolion yng Nghymru yn wynebu "argyfwng ariannol dirdynnol", gyda thoriad o 6% mewn gwariant fesul disgybl.

O dan Lafur, mae cyfyngiadau cyllid sy'n wynebu'r sector addysg wedi gweld y sgoriau PISA isaf yn y DU ac argyfwng recriwtio a chadw.

Mae llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Cefin Campbell AS wedi dweud bod Llywodraeth Lafur Cymru "wedi blino ac allan o syniadau" i drwsio'r system addysg, ac yn osgoi atebolrwydd.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Addysg, Cefin Campbell AS:

"O dan Lafur, mae safonau addysg wedi gostwng, mae ysgolion yn ei chael hi'n anodd yn ariannol, mae targedau i recriwtio athrawon uwchradd wedi'u methu ers bron i ddegawd, ac yn syml, nid yw disgyblion yn dysgu'r pethau sylfaenol sydd eu hangen er mwyn iddynt lwyddo.

"Ond yn hytrach na gweithredu'n gyflym i fynd i'r afael â'r materion hyn, mae Llafur yn cilio oddi wrth atebolrwydd a hyd yn oed methu â gweithredu atebion cyflym i wella lefelau llythrennedd.

"Er gwaethaf addewid dwy lywodraeth Lafur yn cydweithio er budd Cymru, mae'n ymddangos bod gwell gan Lywodraeth Lafur Cymru tawelu’r dyfroedd yn y blaid Lafur a rhoi'r bai ar awdurdodau lleol am eu methiannau na sicrhau’r gorau i Gymru. Hyd yn hyn, maent wedi methu â chyflawni eu haddewidion i gynyddu cyllid i addysg.

Parhaodd Mr Campbell,

"Ar ôl 25 mlynedd mewn grym, mae’n glir fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi blino ac allan o syniadau i drwsio'r system addysg y gwnaethon nhw eu hunain dorri.

"Bydd Plaid Cymru wastad yn sefyll dros fuddiannau gorau Cymru a mynnu model ariannu teg i fuddsoddi mewn addysg plant.

"Rydyn ni'n glir bod angen i ni fynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio a chadw yn ein hysgolion drwy fynd i'r afael â phwysau llwyth gwaith; cymryd camau ar unwaith i ddiweddaru canllawiau llythrennedd Llywodraeth Cymru; ac i ariannu ysgolion drwy sicrhau model ariannu teg o San Steffan. Mae angen dechrau newydd ar Gymru - a dyna mae Plaid Cymru yn ei gynnig."