Angen cryfhau’r gyfraith ar lefelau staffio diogel, meddai Plaid

Mae Rhun ap Iorwerth wedi herio'r Prif Weinidog dros fethiant Llafur i roi "cynllun gweithlu cynhwysfawr a chynaliadwy" ar waith, gan roi cleifion mewn perygl o ganlyniad.

Amcangyfrifir bod 2,000 o swyddi nyrsio gwag nyrsio ar draws y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, gan arwain at lefelau staffio anniogel ar wardiau ysbytai.

Amlygodd Adroddiad "Nyrsio mewn Rhifau" y Coleg Nyrsio Brenhinol 2024 fod nyrsys yng Nghymru yn gorfod gweithio cyfanswm o 73,000 o oriau ychwanegol yr wythnos i ffurfio peth o'r diffyg staffio. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru wario £142m ar nyrsio asiantaeth y llynedd yn unig i gwrdd â diffygion niferoedd staffio.

Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i gryfhau'r gyfraith ar lefelau staffio diogel er mwyn lleihau dibyniaeth y gwasanaeth iechyd ar nyrsio asiantaethau.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:

"Hyd yn oed drwy gyfaddefiad y Prif Weinidog ei hun, nid yw'r gwasanaeth iechyd lle mae angen iddo fod ar ôl 25 mlynedd o lywodraeth dan arweiniad Llafur: y rhestrau aros uchaf erioed, yr angen am ymyrraeth ar fyrddau iechyd, a staff yn gorfod gweithio o dan amgylchiadau mwy mwy anodd.

"Mae tua 2,000 o swyddi nyrsio gwasg yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru; mae nyrsys yn gweithio dros 73,000 o oriau ychwanegol yr wythnos; ac roedd bil asiantaeth y llynedd yn dal i fod ar £142m - sy'n gyfatebol i 4,677 o nyrsys cofrestredig newydd llawn-amser.

"Mae ymdrechion i roi staffio nyrsio ar lefel gynaliadwy yn cael ei danseilio ymhellach gan doriadau i'r lleoedd gradd nyrsio yng Nghymru.

"Dyw Llafur ddim hyd yn oed yn gallu gwneud y pethau sylfaenol yn iawn. Maent wedi methu'n systematig â rhoi cynllun gweithlu cynhwysfawr a chynaliadwy ar waith, sy'n annheg ar staff ac yn peryglu cleifion.

"Os yw Llafur o ddifrif am fynd i'r afael â'r argyfwng nyrsio yng Nghymru, bydden nhw'n cryfhau'r gyfraith ar lefelau staffio diogel ar wardiau ysbytai - er lles cleifion a staff.”