Mewn cyfarfod o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol (PGC) Plaid Cymru heno (dydd Mercher Mai 10fed) hysbysodd Adam Price MS yr aelodau y bydd yn camu lawr fel Arweinydd y Blaid unwaith y bydd trefniant dros dro mewn lle.

Cymeradwyodd y PGC gynnig yn caniatáu i Grŵp Senedd Plaid Cymru wahodd enwebiadau ar gyfer y rol Arweinydd Dros Dro yn eu cyfarfod bore fory (Dydd Iau), yn amodol ar gadarnhad gan Gyngor Cenedlaethol y Blaid ddydd Sadwrn.

Bydd Arweinydd newydd mewn lle yn yr haf a bydd amserlen yn amlinellu’r broses o ethol Arweinydd parhaol yn cael ei rhannu ag aelodau’r Blaid cyn gynted â phosib.

Wrth egluro ei benderfyniad mewn llythyr i Marc Jones, Cadeirydd Plaid Cymru, dywedodd Adam Price AS:

“Rydyn ni wedi llywio’r agenda ar gyfer newid mewn ffordd nad oes yr un wrthblaid o’n blaenau wedi breuddwydio gwneud.

Roedd y Cytundeb Cydweithio yn wirioneddol arloesol ac mae wedi dod â manteision fydd yn newid bywydau ein plant, ein teuluoedd a’n cyfeillion ar draws y wlad.

Mae ein prif ysgogiad ni – annibyniaeth i Gymru – wedi torri’r glannau ar wleidyddiaeth y brif ffrwd ac erbyn hyn mae llaweroedd, o bob cwr ac o bob plaid, yn credu fel ninnau nad mater o os yw hyn, ond pryd.

Mae fy ymrwymiad i’n gweledigaeth o wlad wedi’i thrawsnewid mor gryf ag erioed, a fy egni dros newid heb bylu dim.

Rwy’n rhoi fy sicrwydd personol ichi y byddaf yn parhau i wasanaethu fy ngwlad, fy etholwyr a’n plaid gyda phenderfyniad a brwdfrydedd.”

Mynegodd Marc Jones ei ddiolch i Adam Price am ei wasanaeth a’i gyfraniad fel Arweinydd;

“Ar ran Plaid Cymru hoffwn ddiolch i Adam am ei egni a’i weledigaeth dros y pedair blynedd a hanner diwethaf. Mae ymrwymiad personol Adam i wneud Cymru yn genedl decach yn etifeddiaeth barhaol y gall ef a Phlaid Cymru fod yn falch ohoni.

“Drwy’r Cytundeb Cydweithio, sydd wedi ei saernïo gan Adam, mae Plaid Cymru wedi gallu gweithredu polisïau arloesol megis prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd, diwygiadau sy’n amddiffyn ein cymunedau’n well ac edrychwn ymlaen at Senedd fwy sy'n adlewyrchu'r Gymru hyderus.

“Wrth i ni ddechrau’r broses o ethol Arweinydd newydd byddwn yn canolbwyntio ein holl egni ar weithredu argymhellion Prosiect Pawb er mwyn meithrin diwylliant newydd o fewn y blaid, sy’n golygu y bydd hi’n fudiad llawr gwlad diogel a chynhywsol i bawb.