Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau fod pump o brif anghenion Cymru yn cael eu cynnwys yn Natganiad yr Hydref gan y Canghellor

Heddiw (Dydd Mercher 23 Hydref 2024) bydd Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau fod pump o brif anghenion Cymru yn cael eu cynnwys yn Natganiad yr Hydref gan y Canghellor.

Bydd Plaid Cymru yn galw am:

  • Ailddosbarthu HS2 o fod yn brosiect Cymru a Lloegr i fod yn brosiect Lloegr yn-unig, a bod Cymru yn derbyn y £4 biliwn sydd yn ddyledus o’r prosiect.
  • Cyllid teg i Gymru - gan ddisodli fformiwla Barnett am gyllid sydd yn seiliedig ar anghenion pobl Cymru.
  • Datganoli Ystâd y Goron i Gymru, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban.
  • Diwedd ar y cap budd-dal dau blentyn sydd yn gorfodi miloedd o blant i mewn i dlodi yng Nghymru.
  • Adfer lwfans Tanwydd y Gaeaf

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar gyllid, Heledd Fychan AS:

"Am flynyddoedd cyn etholiad cyffredinol y DU, cawsom addewidion y byddai pethau'n well wedi i ni gael llywodraeth Lafur yn San Steffan. Ond tydi’r 'partneriaeth mewn pŵer’, fel y gelwir hi gan Lafur, heb gyflawni dim i Gymru.

"Yn y Senedd, roedd Llafur yn arfer cytuno â Phlaid Cymru ar ailddosbarthu HS2 a'r £4bn oedd yn ddyledus i ni o ganlyniad; ar amnewid fformiwla Barnett; ac ar ddatganoli Ystâd y Goron. Ond yn amlwg, ni allent berswadio eu bosys yn Llundain ar y materion hyn.

"Mae Llywodraeth Cymru yn honni eu bod yn gwneud yr achos dros arian HS2, ond erbyn hyn, dim ond ychydig gannoedd o filiynau yn hytrach na'r biliynau yr oedden nhw'n galw amdano yn y gorffennol."

Parhaodd:

"Tra bod pensiynwyr o Gymru yn ofni na fyddant yn gallu cynhesu eu cartrefi y gaeaf hwn; tra bod traean o blant Cymru yn byw mewn tlodi; a thra bod Cymru yn colli biliynau o gyllid sy’n ddyledus; mae Llafur Cymru yn ddigon hapus i aros yn dawel, gan flaenoriaethu eu plaid yn hytrach na’u cenedl.

"Mae ein galwadau heddiw yn cynrychioli'r camau angenrheidiol tuag at sicrhau tegwch i Gymru a'r cyllid sy'n ddyledus i ni. Mae Plaid Cymru yn glir - rhaid i Lafur wireddu’r addewidion a wnaed i bobl Cymru.”