Liz Saville Roberts AS yn ymateb i’r cyhoeddiad am gytundeb masnach y DG-Awstralia.

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, heddiw wedi ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DG o gytundeb masnach gydag Awstralia trwy feirniadu’r Prif Weinidog am wneud targedau hinsawdd y  DG  “yn gyff gwawd” a “thanseilio hyfywedd tymor-hir ein sector amaethyddol".

Mae’r cytundeb yn gwneud i ffwrdd â thariffau a chwotâu ar gynhyrchion o Awstralia, gan gynnwys cynhyrchion amaethyddol. Mae Plaid Cymru yn pryderu bod ffermio yn Awstralia yn gweithredu ar raddfa na all ffermwyr Cymru gystadlu ag ef, gan ddefnyddio dulliau na fyddai’n cydymffurfio â safonau amgylcheddol a lles anifeiliaid uchel cynhyrchu yn y DG.

Nododd AS Plaid Cymru fod cig eidion a chig oen Cymru “ymysg y mwyaf cynaliadwy yn y byd”; honiad a ategir gan astudiaeth gan Brifysgol Bangor oedd yn gosod ffermio cig eidion a chig oen Cymreig ar begwn isaf allyriadau CO2 y kilo o gymharu ag astudiaethau a gynhelir mewn mannau eraill yn y byd. Rhybuddiodd hefyd fod y cytundeb yn “gosod cynsail peryglus” fydd yn gweld cenhedloedd ffermio mawr eraill megis Brasil ac UDA yn disgwyl “amodau’r un mor ffafriol”.

Adleisiodd Ms Saville Roberts hefyd bryderon Comisiwn Masnach a Busnes y DG  - y mae hi’n aelod ohono - nad yw ASau yn cael llais dros delerau’r cytundeb masnach, gan alw ar Lywodraeth y DG i “wrthdroi ar frys y penderfyniad byrbwyll hwn a chaniatáu i’r Senedd ddatgelu oblygiadau llawn y cytundeb masnach hwn a phob cytundeb masnach at y dyfodol.”

Dywedodd Liz Saville Roberts AS:

“Trwy gytuno’r cytundeb masnach hwn, mae Boris Johnson wedi gwneud ein targedau hinsawdd yn gyff gwawd ac wedi tanseilio hyfywedd tymor-hir ein sector amaethyddol yng Nghymru.

“Er bod cig eidion a chig oen Cymru ymysg y mwyaf cynaliadwy yn y byd, mae Llywodraeth y DG wedi cyflymu cytundeb fydd yn gweld cynnyrch a fagwyd i safonau amgylcheddol is o lawer yn cael eu gludo dros y môr neu’r awyr hanner ffordd rownd y byd i’n marchnadoedd ni. Mae hyn yn mynd yn hollol groes i nod honedig Boris Johnson o arwain y byd trwy weithredu ar hinsawdd.

“Yn waeth byth, mae’r cytundeb hwn yn gosod cynsail peryglus at y dyfodol. Trwy ildio i amodau Awstralia, mae Llywodraeth y DG wedi agor y drws i gynhyrchwyr cig diwydiannol enfawr megis Brasil ac UDA ddisgwyl amodau ffafriol tebyg.

“Gŵyr y Torïaid am y difrod y bydd hyn yn achosi, ond maent wedi penderfynu bod cipio pwerau a phenawdau iddynt eu hunain yn bwysicach na datgelu eu cytundebau masnach i oleuni craffu. Er lles cenedlaethau’r dyfodol, rhaid i Lywodraeth y DG wrthweithio fel mater o frys eu penderfyniad byrbwyll a gadael i’r Senedd ddatgelu oblygiadau llawn y cytundeb masnach hwn a phob cytundeb masnach yn y dyfodol.”