Plaid Cymru yn beirniadu Llafur am "gylchdred parhaol o reoli argyfyngau" dros Betsi Cadwaladr - mae pobl gogledd Cymru yn haeddu gwell
Mae mis Chwefror yn nodi tair blynedd ers i Betsi dychwelyd i fesurau arbennig
Mae’r saga yn Betsi Cadwaladr yn uwcholeuo’r “normaleiddio parhaus o fethiant” mewn rheolaeth Llafur dros y gwasanaeth iechyd, meddai Mabon ap Gwynfor AS ymhen dadl yn y Senedd yn nodi tair blynedd ers i’r bwrdd iechyd dychwelyd i fesurau arbennig.
Wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddychwelyd i fesurau arbennig ym mis Chwefror 2023 – ar ôl i lywodraeth Llafur Cymru gwneud penderfyniad gwleidyddol i gymryd y bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig yn gynamserol ymhen yr etholiad Senedd yn 2021.
Mae'r bwrdd iechyd wedi treulio dros hanner ei fodolaeth mewn ymyrraeth wedi'i dargedu, ar ôl cael ei osod mewn mesurau arbennig yn gyntaf gan Lywodraeth Cymru yn 2015, yn dilyn methiannau parhaus a systemig a nodwyd yn ei gwasanaethau a'i llywodraethant.
Mewn dadl gwrthblaid yn y Senedd heddiw (Dydd Mercher 4 Chwefror 2026), bydd Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau arweinyddiaeth wleidyddol i wella safonau yn y bwrdd iechyd, cyhoeddi canfyddiadau ymchwiliad annibynnol diweddar i fylchau yn ddata rhestrau aros y bwrdd iechyd, a chyflymu’r broses o sefydlu canolfannau llawfeddygol wedi’u staffio’n llawn.
Bydd Plaid Cymru hefyd yn galw ar Lywodraeth Llafur Cymru i weithredu argymhellion ei hadroddiad ‘System Iechyd Cymru: Atebolrwydd, Perfformiad a Diwylliant’ i ddiwygio llywodraethu’r gwasanaeth iechyd.
Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gweithredu’r argymhellion os mewn llywodraeth wedi’r etholiad Senedd ym mis Mai:
- Nodau, Blaenoriaethau a Chynllunio: symleiddio cynllunio gofal iechyd a sicrhau targedau mwy realistig a chyflawnadwy;
- Rolau ac Atebolrwydd: gwella atebolrwydd drwy ailddiffinio cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth y GIG i atal Gweinidogion rhag micro-reoli'r gwasanaeth iechyd;
- Gweithio mewn Partneriaeth: gweithio'n agosach rhwng iechyd a gofal cymdeithasol drwy rannu adnoddau yn effeithlon;
- Gallu a Chapasiti: cynyddu gwybodaeth arbenigol am lywodraethu gofal iechyd yn y gwasanaeth sifil i wella polisïau a darpariaeth iechyd y cyhoedd;
- Mesur a Rheoli Perfformiad: mwy o gasglu data ar berfformiad y gwasanaeth iechyd a meini prawf cliriach ar gyfer mesurau uwch-gyfeirio;
- Ymgysylltu â’r Cyhoedd a Chleifion: grymuso llais y claf a hyrwyddo diwylliant o groesawu sylwadau a chwynion i wella profiad cleifion a thryloywder cyhoeddus;
- Diwylliant: creu rheolau safonol ar gyfer uwch arweinwyr y GIG i sicrhau bod trefniadau atebolrwydd yn cael eu bodloni.
Wrth siarad cyn y ddadl Senedd, ,dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Mabon ap Gwynfor AS,
“Tair blynedd ers i Betsi dychwelyd i fesurau arbennig, mae’n siomedig i weld normaleiddio parhaus o fethiant a chylchred parhaol o reoli argyfyngau, yn lle newid ystyrlon sy’n mynd i’r afael â’r heriau yma am unwaith. Mae pobl gogledd Cymru yn haeddu gwell.
“Mae’r heriau sy’n wynebu ein gwasanaeth iechyd yn anffodus yn amlwg dros Gymru, gyda phob un Bwrdd iechyd yng Nghymru mewn rhyw fath o ymyrraeth a dargedwyd, ond mae methiannau Llafur yn fwyaf amlwg yn Betsi Cadwaladr, a’i chleifion a staff rheng-flaen sy’n talu’r pris.
“Mae’r saga yma i gyd yn profi fod angen arweinyddiaeth newydd yng Nghymru – a dyma mae Plaid Cymru yn ei chynnig, gyda chynllun i ddiwygio llywodraethant y gwasanaeth iechyd oedd wedi’i geni allan o’r rhwystredigaeth lwyr o ddiffyg rheolaeth Llafur dros Betsi, sydd wedi caniatáu i’r heriau yma ddatblygu.
“Mae ein cynllun yn amlinellu camau clir i wella llywodraethant a mecanweithiau atebolrwydd yn y gwasanaeth iechyd, yn ogystal ag arweinyddiaeth wleidyddol gryfach i ddwyn y bwrdd iechyd i gyfrif ac i roi’r gwasanaeth iechyd ar sail fwy cynaliadwy.
“Ar ôl bron i 27 mlynedd o gamreoli Llafur o’r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, mae gan Blaid Cymru'r uchelgais a’r syniadau i wella gwasanaethau y mae pobl yng Nghymru eu hangen a’u haeddu.”