Mae Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, yn condemnio methiannau bwrdd iechyd sydd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru ar ôl pum mlynedd o fod mewn mesurau arbennig.

Mae Rhun ap Iorwerth, AS Plaid Cymru a Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid wedi tynnu sylw at y camau brys sydd eu hangen i fynd i’r afael â methiannau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yng Ngogledd Cymru sydd heddiw wedi bod mewn mesurau arbennig ers pum mlynedd.

Dywedodd Mr ap Iorwerth fod gan y bwrdd iechyd hanes o ddiffydion, er enghraifft methiannau ei wasanaethau fasgwlaidd, a cyflogi yr ymgynghorydd allanol, 'Marbella Man', am bron i £ 2000 y dydd wrth iddo weithio ar ‘gynuliafdau’ 'i'r bwrdd iechyd, weithiau o'i gartref yn Sbaen.

Y methiant fwyaf diweddar gan y fwrdd iechyd oedd rhyddhau bron i 1,700 o gleifion iechyd meddwl yn ystod yr argyfwng sy’n cael ei gyfeirio ato dro ar ôl tro gan arbenigwyr fel her seicolegol i lawer. Mae problemau gyda hen system ddata hefyd wedi arwain at dangofnodi marwolaethau Covid gan y bwrdd iechyd.

Ar 27 Ebrill adroddodd y bwrdd iechyd 84 o “farwolaethau ôl-weithredol” a ddigwyddodd rhwng 20 Mawrth a 22 Ebrill.

Dywedodd Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid “efallai nad oes opsiwn” ond diddymu’r bwrdd iechyd a “dechrau o’r newydd”.

Dywedodd Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth MS,

“Gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bellach wedi bod mewn mesurau arbennig ers pum mlynedd, mae yna rai cwestiynau anochel a sylfaenol ynghylch a oes hyd yn oed modd troi pethau o gwmpas.

“O fethiannau iechyd meddwl difrifol, i wariant gwastraffus ar ymgynghorwyr busnes allanol, dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru, mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi mynd o un broblem gyhoeddus i’r llall.

“Lle bynnag yr ydym, mae’r pandemig hwn wedi gwneud i ni i gyd feddwl mwy am y math o wasanaeth iechyd sydd ei angen arnom, sut mae’n rhaid cael adnoddau priodol a chefnogi ei weithlu. Ond yma yng ngogledd Cymru, mae hefyd wedi canolbwyntio meddyliau ar os fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gweithio."

“Nid oes arnaf awydd mynd ar drywydd ad-drefnu er ei fwyn ei hun, ond yn sicr rwyf wedi dod i'r casgliad, ac mae mwy a mwy o bobl yn y GIG a'r cyffiniau yn dweud wrthyf eu bod yn cytuno â mi, efallai nad oes opsiwn bellach ond rhannu'r fwrdd iechyd hwn, a dechrau o'r newydd. Mae'n gam y byddwn, fel y mae pethau ar hyn o bryd, yn barod i'w gymryd pe bawn i'n dod yn Weinidog Iechyd ar ôl yr etholiad. “